Ymuno â'r Llyfrgell

Hanes Fy Chwilio

mwy...

Cymorth:

Cwricwlwm Cymreig

Nod y canllaw yw cyfeirio defnyddwyr at adnoddau rhyngrwyd o fewn Cymru ar y We a allai fod o ddefnydd wrth ddysgu'r Cwricwlwm Cymreig ac i ysgolion yn gyffredinol.

Er nad yw'r adnoddau wedi'u gwirio ar gyfer eu perthnasedd i lefelau cyfnod allweddol mewn ysgolion, gallent wneud cyfraniad defnyddiol i ddarpariaeth y Cwricwlwm Cymreig mewn ysgolion cynradd ac uwchradd fel ei gilydd. Mae'n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer y rhai sy'n chwilio am adnoddau perthnasol i Gymru a gellir eu defnyddio wrth ddysgu.

Cliciwch ar unrhyw un o'r dolenni isod i gael mynediad at wefannau o ddiddordeb Cymreig.

Canllaw Newydd: Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Gwasanaethau eraill gan Cymru ar y We sy'n berthnasol i'r Cwricwlwm Cymreig:

Cymru Ddigidol
Gellir gweld gorolwg o ddeunydd digidol sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru, ac sydd i'w weld ar y we fyd eang am ddim, yma. Mae'n faes sy'n datblygu'n gyson, ac sy'n cwmpasu pob agwedd o fywyd a hanes Cymreig. Mae'r canllaw hwn yn cynnwys toreth o wybodaeth sy'n ymwneud â Hanes, Daearyddiaeth, Celf, Llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg ac i'r Cwricwlwm Cymreig yn gyffredinol.

Ask Cymru
Gwasanaeth cwestiwn ac ateb a ddarperir gan Lyfrgelloedd yng Nghymru yw Ask Cymru. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys tîm o lyfrgellwyr ac arbenigwyr gwybodaeth sy'n barod i gymeryd eich cwestiynau ac anfon ateb yn syth i'ch blwch post o fewn dau ddiwrnod. Mae'r gwasanaeth ar gael i bawb a gall ateb cwestiynnau am Gymru ac unrhywbeth Cymreig. Mae'r adnoddau hefyd yn cynnwys yr holl ystod o wybodaeth a byddant yn falch o ateb cwestiynnau ar unrhyw bwnc. Mae'r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Cymru ar y We: Sefydliadau Addysgiadol
Mae'r adran hon yn darparu mynediad at yr amryw o gyrff addysgiadol yng Nghymru, ac sydd wedi eu cynnwys o fewn Cymru ar y We.

---------------------------------------------------------------

Mae adnoddau eraill sy'n rhoi mynediad i wefannau ac adnoddau dysgu ar gyfer ysgolion yn cynnwys: