Ymuno â'r Llyfrgell

Hanes Fy Chwilio

mwy...

Cymorth:

Curriculum Cymreig--Yr Amgylchedd/Datblygiad Ymghynhaliol


Mae yna nifer o adnoddau ar gael sy'n ymwneud â'r amgylchedd yng Nghymru. Rhestrwyd llawer ohonynt o fewn Cymru ar y We, ond gellir gweld crynodeb byr o'r hyn sydd ar gael isod.

Gobeithiwn y cyfeirir athrawon at adnoddau dilysedig o safon uchel, a all fod o fudd i'w gwaith, trwy dudalennau Cymru ar y We. Bydd y dolenni isod yn eich cyfeirio at orolwg o'r adnoddau a all fod yn berthnasol i athrawon yng Nghymru.

Gellir gweld adnoddau eraill a restrwyd o fewn Cymru ar y We, ac a fydd o ddefnydd i ysgolion yng Nghymru, yn y canlynol:

  • Mae WYFSD : Fforwm Ieuenctid Cymru ar Ddatblygu Cynaladwy yn cynrychioli ymbŵeru, addysgu a gweithredu'r ifanc o ran materion sy'n ymwneud â datblygu ymgynhaliol. Fe'i grëwyd er mwyn i bobl ifanc Cymru fedru dweud eu dweud am yr hyn sy'n digwydd yn ein gwlad. Darperir manylion am waith a digwyddiadau'r WYFSD ar y wefan, yn ogystal â thudalen ddolenni gynhwysfawr ar ddatblygu ymgynhaliol.

  • Darperir syniadau am sut i gyfrannu at achub y blaned yn eich bywyd beunyddiol ar wefan Doing you Bit, tra bod Bwrlwm Bywyd, sy'n adnodd a ddarparwyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, hefyd yn rhoi cyngor ar sut i arbed yr amgylchedd yn ein bywyd bob dydd ac ar gynaliadwyedd. Ceir ffigurau am gyflwr y byd, yn ogystal ag awgrymiadau ar sut y medrwn wella cynaliadwyedd ym mhob agwedd o fywyd.

  • Atebir cwestiynau ynglŷn â'r effaith y caiff ein ffordd o fyw ar y blaned gan Ôl Troed Ecolegol Cymru, yn unigolion, yn gartrefi neu'n fusnesau. Mae'n cyfrif faint o dir a môr sydd ei angen i'n darparu â'r egni, dŵr a'r mwynau a ddefnyddiwn yn ddyddiol, gan anelu at ddarganfod dulliau o wneud bywyd yng Nghymru yn fwy cynaliadwy. Gellir gweld adran Fy ôl Troed I (lle mae'n bosibl cysylltu â gwefan sy'n cyfrifo Olion Traed unigol), adran Newyddion, a gwybodaeth ynglŷn â defnyddio'r ôl Troed fel teclyn addysgiadol ar y wefan.