Canllaw i'r Curriculum Cymreig --> Addysg Grefyddol
Nod y dolenni canlynol yw cyfeirio defnyddwyr at adnoddau sydd wedi eu cynnwys ym mhorth Cymru ar y We a fydd o werth i ysgolion yn gyffredinol, ac wrth ddysgu'r Cwricwlwm Cymreig.
Mae nifer o'r gwefannau'n cynnwys deunydd a grëwyd yn arbennig ar gyfer ysgolion, neu wybodaeth am adnoddau sy'n cynnig darpariaeth ar gyfer ymweliadau ysgol. Mae gan y gwefannau hyn eicon ar waelod disgrifiad yr adnodd.
Gall gwefannau heb eicon addysg hefyd gynnwys deunydd gwerthfawr. Er nad ydynt yn cynnwys adnoddau a grëwyd yn arbennig ar gyfer y dosbarth, medrent gyfrannu'n fawr at ddarpariaeth y Cwricwlwm Cymreig mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae'n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer y rheiny sy'n chwilio am ddeunydd yn ymwneud â Chymru y gellir ei ddefnyddio wrth ddysgu. Mae'r dudalen hon hefyd yn cynnwys dolenni at adrannau perthnasol gwefan GCAD Cymru.Ewch at ein canllawiau am Addysg Grefyddol er mwyn cael gorolwg o'r adnoddau addysgiadol sydd ar gael yng Nghymru sy'n berthnasol i'r pwnc.
Mae'r dolenni o fewn Cymru ar y We sy'n ymwneud ag Addysg Grefyddol yn cynnwys:
- Crefydd: pob pennawd
Yn cynnwys rhestr o'r ddolenni sy'n ymwneud â chrefydd o fewn Cymru ar y We. - Crefydd: Cyffredinol
Ar gyfer gorolwg bras o grefydd yng Nghymru, gyda manylion am gyrff, sefydliadau addysg uwch a chasgliadau ymchwil sy'n ymwneud â Chrefydd. - Hanes eglwysig
Yn darparu gwybodaeth am hanes yr Eglwys a Christnogaeth yn y wlad hon. - Gwaith cymdeithasol Cristnogol
Mae yna nifer o sefydliadau yng Nghymru sy'n darparu amryw o wasanaethau, gan gynnwys sefydliadau, cyrff ac elusennau; cymdeithasau a chanolfannau encil. - Y Beibl
Adnoddau sy'n cynnwys gwybodaeth am y Beibl a'i gyfieithu, fersiynau ar-lein o'r Beibl yn y Gymraeg a chasgliadau sy'n ymwneud â'r Beibl. - Enwadau Cristnogol
Gan gynnwys amryw o wefannau gyda gwybodaeth am bob enwad Cristnogol, eu hanes a nifer fawr o wefannau eglwysi a chapeli ar draws y wlad. - Plwyfi a chylchoedd eglwysig ar-lein
Ar gyfer ystod o adnoddau o blwyfi a chylchoedd eglwysig o bob cwr o Gymru. - Crefyddau'r byd
Adnoddau pellach yn ymwneud â chrefyddau eraill, gan gynnwys Bwdhaeth, Hindŵaeth, Iddewiaeth, Islam a Ffydd y Baha'i.
Deunydd dysgu sydd gan GCAD Cymru yn ymwneud ag Addysg Grefyddol:
Gwefannau awgrymedig sy'n trafod pob agwedd o Addysg Grefyddol yng Nghymru:
- Mae gwefan Hanes Crefydd yng Nghymru, sef gwefan a oedd yn cyd-fynd â chyfres deledu'r BBC 'Bread of Heaven', yn olrhain hanes Cristnogaeth yng Nghymru o'r Gymru Gyn-Gristnogol hyd at gymdeithas aml-ddiwylliannol heddiw. Ceir adrannau ar y Rhufeiniaid a Dyfodiad Cristnogaeth, Oes y Saint, y Normaniaid, tywysogion ac esgobion, diwygiad a diddymiad y Mynachlogydd a'r rhyfel cartref, yn ogsytal â gwawr anghydffurfiaeth, emynwyr a phregethwyr, diwydianwyr a dirwestwyr, diwygiad 1904-05, twf seciwlariaeth a Chymru aml-ddiwylliannol. Gellir dilyn hanes crefyddol Cymru drwy gyfrwng y linell amser. Mae'r adnodd hefyd yn darparu nifer o ddolenni at wefannau eraill sy'n ymwneud â chrefydd yng Nghymru, a cheir adran am grefyddau eraill yng Nghymru, yn ogystal.
- Gwefan Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Prifysgol Cymru, Bangor. Darperir gwybodaeth am y Ganolfan, hyfforddi athrawon, cyhoeddiadau a'r Prosiect Addysg Bydol, yn ogystal â dolenni at nifer o wefannau addysg grefyddol eraill. Mae hefyd yn gartref i'r Ganolfan Uwchefrydiau Crefydd yng Nghymru.
- Bwrw Golwg yw'r wefan ar gyfer y rhaglen grefyddol a ddarlledir ar Radio Cymru ac sy'n trin a thrafod amrywiaeth o faterion crefyddol a moesol yr wythnos. Mae'r wefan yn cynnwys cyfweliadau, trafodaethau a dadansoddiad bywiog, yn ogystal â chyfle i glywed am ddigwyddiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
- Gwefan Casglu'r Tlysau a'i adran ar Grefydd a Chred. Mae'r adnodd yn darparu delweddau a gwybodaeth ddigidol ar ystod eang o bynciau perthnasol i Grefydd yng Nghymru.