Canllaw i'r Curriculum Cymreig --> Addysg
Nod y dolenni canlynol yw cyfeirio defnyddwyr at adrnoddau sydd wedi eu cynnwys ym mhorth Cymru ar y We a fydd o werth i ysgolion yn gyffredinol, ac wrth ddysgu'r Cwricwlwm Cymreig.
Mae nifer o'r gwefannau'n cynnwys deunydd a grëwyd yn arbennig ar gyfer ysgolion, neu wybodaeth am adnoddau sy'n cynnig darpariaeth ar gyfer ymweliadau ysgol. Mae gan y gwefannau hyn eicon ar waelod disgrifiad yr adnodd.
Gall gwefannau heb eicon addysg hefyd gynnwys deunydd gwerthfawr. Er nad ydynt yn cynnwys adnoddau a grëwyd yn arbennig ar gyfer y dosbarth, medrent gyfrannu'n fawr at ddarpariaeth y Cwricwlwm Cymreig mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae'n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer y rheiny sy'n chwilio am ddeunydd yn ymwneud â Chymru y gellir ei ddefnyddio wrth ddysgu. Mae'r dudalen hon hefyd yn cynnwsy dolenni at adranau perthnasol gwefan GCAD Cymru.
Ewch at ein canllawiau ar Wyddoniaeth er mwyn cael golwg gyffredinol o'r adnoddau addysgiadol sydd ar gael yng Nghymru sy'n berthnasol i'r pwnc.
Mae'r dolenni o fewn Cymru ar y We sy'n ymwneud â Gwyddoniaeth yn cynnwys:
- Gwyddonwyr
Ar gyfer adnoddau megis Rhwydwaith Athrawon a Gwyddonwyr (Cymru) a SciFiles y BBC. - Amgueddfeydd Gwyddoniaeth
Er mwyn gweld gwefannau Techniquest (Caerdydd) a Techniquest (Wrecsam). - Gwyddoniaeth: Addysg
Adran yn cynnwys andoddau addysgiadol cynwysfawr yn ymwneud â gwyddoniaeth, gan gynnwys gwefannau gan gyrff o Gymru. - Gwyddiniaeth: Cystadlaethau a gŵyliau
Ar gyfer cystadlaethau a gŵyliau gwyddonol yng Nghymru, gan gynnwys Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam, Urdd Lifrai Cymru a Gŵyli Cemeg Salters. - Seryddiaeth
Gan gynnwys gwefan sy'n ymchwilio i Hanes Seryddiaeth yng Nghymru. - Gwyddorau naturiol
Ar gyfer nifer o wefannau'n ymwneud â'r gwyddorau naturiol, gan gynnwys sefydliadau, byd natur, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a pharciau gwledig ym mhob rhan o Gymru. - Planhigion/Botaneg
Gan gynnwys mynediad at wefannau megis Llên y Llysiau (prosiect gan Gymdeithas Edward Llwyd sy'n darparu gwybodaeth am blanhigion yng Nghymru), gwefan natur gynhwysfawr y BBC a ac adran Blodau Siroedd Cymru gwefan Plantlife Rhyngwladol. - Gerddi botanegol
Adran sy'n cynnwys gwefannau nifer o erddi botanegol yng Nghymru, megis Gardd Fotanegol Genedlaethol Cymru. - Anifeiliaid
Rhestr o adnoddau'n ymwneud â gwarchodfeydd anifeiliaid, adar (gan gynnwys y Barcud Coch) a mamaliaid (gan gynnwys dolffiniaid a llamidyddion). - Yr amcylchedd a datblygiad cynaliadwy
Canllaw i'r amgylchedd a datblygiad cynaliadwy yng Nghymru. Mae'r canllaw hefyd yn edrych ar ynni adnewyddadwy, ailgylchu a chanolfannau addysgiadol awyr agored. - Canolfannau awyr agored
Gan gynnwys nifer o adnoddau am ganolfannau addysgiadol awyr agored yng Nghymru. Mae nifer ohonynt yn darparu ar gyfer dysgu daearyddiaeth.
Deunydd dysgu sydd gan GCAD Cymru yn ymwneud â Gwyddoniaeth:
Gwefannau awgrymedig pellach sy'n trafod pob agwedd o Wyddoniaeth:
- Mae gan wefan Gwyddoniaeth Cymru ddeunydd addysgiadol am y byd byw, materol a ffisegol. Mae gwefan 'flash' Gwyddoniaeth Cymru yn cynnwys gweithgareddau rhyngweithiol a anelwyd at ddod â dysgu am wyddoniaeth yn fyw i blant rhwng 8 ac 11 mlwydd oed.
- Prosiect newydd sy'n cael ei redeg dros Gymru gyfan, ac sy'n galluogi pobl i ddarganfod mwya am faterion newydd, cyffrous a chyfredol ym myd gwyddoniaeth, yw Caffi Gwyddoniaeth Cymru. Fe'u ddyluniwyd i fod yn ddigwyddiadau anffurfiol a difyrrus, gan eu cynnal yn gyson mewn tai coffi neu fariau ar nosweithi yn ystod yr wythnos. Bydd y nosweithi'n cynnwys araith fer gan siaradwr gwadd am bynciau llosg neu faterion newydd yn ymwneud â gwyddoniaeth, a thrafodaeth lle gall aelodau'r gynulleidfa ofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt. Mae yna bum caffi gwyddoniaeth ar draws Cymru: Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Abertawe a Wrecsam.
- Canolfannau gwyddoniaeth addysgiadol sy'n cynnal nifer o arddangosfeydd a seiliwyd ar y cwricwlwm yw Techniquest (Caerdydd) a Techniquest@Newi (Wrecsam). Y nod yw cynyddu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad y cyhoedd o wyddoniaeth. Mae'r gwefanau'n cynnwys adrannau yn arbennig ar gyfer ysgolion gyda gwybodaeth am y cwricwlwm a manylion am weithgareddau a digwyddiadau.