Ymuno â'r Llyfrgell

Hanes Fy Chwilio

mwy...

Cymorth:

Cwricwlwm Cymreig--Hanes Cymru

Cynnwys- Canllaw cwricwlwm cyfnodau hanesyddol

Cyrff a sefydliadau yng Nghymru | Adnoddau hanes cyffredinol | Enwogion Cymru | Hanes archeolegol Cymru | Cestyll Cymru | Hyd 499 O.C. | 6ed-15fed Ganrif | 16eg-18fed Ganrif | 19eg Ganrif | 20fed Ganrif |

Mae'r arweiniad canlynol yn olwg sydyn ar adnoddau sy'n cynnwys deunydd perthnasol i Hanes Cymru ac yn tynnu sylw at y deunydd mwyaf defnyddiol ar y We Fyd Eang.

Cyrff a Sefydliadau yng Nghymru

Mae gwefan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru yn darparu deunydd addysgol ar ystod eang o bynciau perthnasol I Hanes Cymru. Ceir manylion eu holl safleoedd o dudalen flaen eu gwefan, gan gynnwys:

  • Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol (Caerdydd)
  • Pwll Mawr (Blaenafon)
  • Amgueddfa Lechi Cymru (Llanberis)
  • Amgueddfa Werin Cymru (Sain Ffagan)
  • Amgueddfa Rufeinig Segontiwm (Caernarfon)
  • Amgueddfa'r Lleng Rhufeinig (Caerleon)
  • Amgueddfa Diwydiant Gwlân Cymru (Felindre)
  • Oriel Turner House (Penarth)

Mae Adran Addysg gwefan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru yn darparu manylion eu rhaglen eang o ddigwyddiadau ar gyfer ysgolion, teuluoedd a dysgwyr o bob oed. Mae yno hefyd adnoddau addysgol ar Y Celtiaid a'r Rhufeiniaid yng Nghymru, Plant y Chwyldro, Darganfod yr Oes Haearn, Hen Caerllion a Phortreadau Tuduriaid a'r Stiwardiaid.

Mae Cymru Fu, sy'n gysylltiedig â gwefan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, yn ymdrin â phob agwedd o fywyd ac hanes yng Nghymru ers cyfnodau cynharaf ei bodolaeth. Gall darllenwyr bori erthyglau ar hanes Cymru yn ôl cyfnod (20fed Ganrif, 19fed Ganrif, Canoloesol Cynnar, Oes Efydd, Oes Haearn, ôl-Ganoloesol, Canoloesol, Oes y Cerrig, a Rhufeinig) neu yn ôl gwahanol ardaloedd Cymru.

Cadw yw'r asiantaeth sy'n gyfrifol am ddiogelu, gwarchod a hyrwyddo treftadaeth adeiledig Cymru ar ran y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r wefan yn cofnodi newyddion diweddaraf, datganiadau i'r wasg, archifau newyddion a rhestrau cysylltiadau. Rhoddir hefyd adroddiad byr am safleoedd Cadw a'u lleoliad yng Nghymru, safleoedd sy'n ymestyn o'r oes gynhanesyddol hyd at yr oes Ddiwydiannol. Yn ogystal, darperir cymorth deddfwriaethol ac addysgol.

Mae Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hanesyddol Cymru yn archwilio treftadaeth adeiledig Cymru, ac yn sicrhau bod yr wybodaeth ar gael i'r cyhoedd. Mae'r wefan yn cynnwys gwybodaeth ynghylch cyhoeddiadau cyfredol a phrosiectau'r Comisiwn ym maes archeoleg a hanes pensaernïol, a Chasgliadau Cofnodion Cofebau Cenedlaethol Cymru. Ar gael yma hefyd y mae'r gronfa ddata genedlaethol estynedig i Gymru, sy'n fynegai cenedlaethol o wybodaeth archeolegol a phensaernïol. Cronfeydd data eraill o fewn y wefan yw CARN, ynghyd â rhestrau o gapeli, safleoedd diwydiannol, murluniau a pharcdiroedd a gerddi.

Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru raglen tymor-hir ar gyfer digido ei thrysorau, a'u gosod ar y We Fyd Eang. Mae'r Drych Digidol yn darparu mynediad i lawer o'r Trysorau sy'n cael eu cadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru trwy eu harddangos ar y rhyngrwyd ac felly'n caniatáu i bob adran o'r gymdeithas a'r byd ehangach eu gweld. Yn ogystal, mae'r Drych Digidol yn cynnwys gwybodaeth am gynlluniau digideiddio'r llyfrgell, a mae'r rhestr o brosiectau yn cynnwys:

Adnoddau Hanes Cyffredinol

Mae Casglu'r Tlysau yn gasgliad o ddelweddau o fywyd Cymru, yn darlunio hanes naturiol a chymdeithasol Cymru ar hyd yr oesoedd. Mae'r delweddau yn cynnwys llythyrau hanesyddol, darluniau, arteffactau a ffotograffau, wedi eu casglu o amgueddfeydd, llyfrgelloedd, swyddfa cofnodion ac archifau ar draws Cymru. Mae Casglu'r Tlysau hefyd wedi creu nifer o 'helfeydd hanes' gan gynnwys rhai ar gartrefi a theuluoedd yn oes Fictoria a chymru adeg y Rhyfel Mawr.

Nod y prosiect Worldwidewales yw profiad clyweladwy rhyngweithiol o Gymru ac mae'n cynnwys nifer fawr o raglenni byrion, o tua 3 i 4 munud o hyd. Mae'r rhaglenni yn edrych ar drefi yng Nghymru, lleoliadau treftadaeth, trennau bychain, digwyddiadau hanesyddol, teithiau cerdded a theithiau golygfaol.

Mae adnoddau sy'n edrych ar Gymru drwy'r oesoedd yn cynnwys Creu Cenedl- Gwreiddiau Datganoli gan Dr John Davies sydd yn hanes o Gymru o'r oes hynafol hyd heddiw a Celtic Info gan Peter Williams, hanes Cymru ers cyn y Rhufeiniaid hyd refferendwm datganoli 1997. Adnodd cyffredinol a defnyddiol arall yw Data Wales gan John Weston.

Cystadleuaeth flynyddol ar gyfer ysgolion yng Nghymru yw Menter y Dreftadaeth Gymreig. Mae'r fenter yn cynnal cystadleuaeth flynyddol. Ei hamcan yw annog plant mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru i gymryd rhagor o ddiddordeb yn eu treftadaeth ac i hybu addysg pobl ifainc yng Nghymru drwy astudio hanes a diwylliant. Mae'r wefan yn darparu ffurflen gais, meini prawf y barnu a chrynodeb o rai o'r ymdrechion buddugol.

Enwogion Cymru

Pol piniwn ar-lein oedd 100 Arwyr Cymru i benderfynu pwy yw arwr mwyaf Cymru erioed. Mae'r wefan yn darparu bywgraffiadau byr o'r 100 Arwr. Mae 5 categori i gyd- arweinwyr, meddylwyr, perfformwyr, pobl greadigol ac arloeswyr ac mae gan bob categori 20 arwr, rhai yn fwy adnabyddus nag eraill. Mae Education on the Internet hefyd yn darparu bywgraffiadau o dros dri deg o bobl adnabyddus o Gymru, o Harri Tudur a David Lloyd George i Ivor Novello ac Elizabeth Jones.

Hanes Archeolegol Cymru

Mae nifer o safleoedd ymddiriedolaethau archeolegol yn cynnwys gwybodaeth hanesyddol gwerthfawr. Yn eu plith mae:

Cestyll Cymru

Mae gwefan Cestyll Cymru yn darparu gwybodaeth a ffotograffau ar fwy na 400 o gestyll gwahanol Cymru sydd i'w gweld ledled y wlad, ynghyd a disgrifiadau o'r gwroniaid a oedd yn gyfrifol am eu hadeiladu, a'r amseroedd cythryblus yr oeddent yn byw ynddynt. Mae'n cwmpasu ystod eang o bynciau'n ymwneud â chestyll Cymru a hanes canoloesol Cymru, ac i gydfynd â'r rhan fwyaf o'r traethodau y mae ffotograffau o ansawdd uchel.

Mae gwefan Channel 4 hefyd yn darparu hanes, disgrifiad, taith rithwir a llinell amser cestyll yng Nghymru; Maent yn cynnwys:

Ewch i adran Cestyll Cymru ar y We am wefannau eraill gyda gwybodaeth am gestyll Cymru.

Cyfnodau Hanesyddol

Hyd 499 O.C.

Bryngaer Oes Haearn wedi'i hailadeiladu yw Castell Henllys yn Sir Benfro ac mae'n ceisio ail-greu'r modd yr arferai'r trigolion Celtaidd gwreiddiol fyw a gweithio. Fel y gwna gwefan Casglu'r Tlysau yn eu hadran 'helfa hanes' addysgol ar 'Tai a Chartrefi yn ystod yr oes Haearn'.

Mae'r BBC wedi creu gwefan ar Geltiaid yr Oes Haearn. Mae'r safle hwn yn sôn am Geltiaid yr Oes Haearn a fu'n byw yng Ngorllewin Ewrop o tua'r 5ed Ganrif CC i'r Ganrif Gyntaf OC sef y Celtiaid cynnar. Mae'r safle at ddefnydd yn yr ysgol a'r cartref ac wedi'i anelu'n bennaf at blant CA2 (oed 7-11), eu hathrawon a'u rhieni. Mae'r pwyslais ar hyrwyddo addysgu arbrofol i gynorthwyo'r plant i gael mynediad i fyd Celtiaid yr Oes Haearn ar lefel dealltwriaeth, yn unol â'r Cwricwlwm Cenedlaethol. Mae'r safle'n cynnwys pob math o weithgareddau ar gyfer helpu plant i ddysgu am y Celtiaid, gan gynnwys gemau, straeon a ffeil ffeithiau.

Astudiaeth o Gaer Rufeinig Caerhun ger Conwy yw prosiect Kanovium. Caer Rufeinig arall yng Nghymru yw Caerllion. Yn Amgueddfa'r Lleng Rufeinig gellir gweld sut roeddent yn byw, yn cysgu ac yn bwyta; sut roeddent yn gorymdeithio ac yn ymarfer ar gyfer y frwydr; pa dduwiau roeddent yn eu haddoli, a pha dlysau roeddent yn eu gwisgo a'u trysori. Gellir hefyd ymweld â'r Ampitheatr Rufeinig gerllaw. Mae gan yr Angueddfa becyn addysg ar Caerllion.

Mae hanes y Rhufeiniaid ym Mhrydain yn cynnwys llawer o gyfeiriadau at Gymru. Mae'r wefan yn delio gyda Llwythau Hynafol Celtaidd ym Mhrydain (gan gynnwys y Silwriaid, Demetae, Ordovices a'r Decangi) ac yn rhoi rhestr a manylion o fryngaerau Celtaidd a mannau cysegredig, aneddau Rhufeinig/ Brythonig a sefydliadau milwrol Rhufeinig. Mae'r wefan hefyd yn cynnwys adrannau am ddaearyddiaeth gwleidyddol Prydain yn dilyn glaniad y Rhufeiniad.

6ed-15fed Ganrif

Ffin gloddwaith unionlin 128 cilomedr o hyd yn dyddio o ddiwedd yr 8fed ganrif OC yw Clawdd Offa, sy'n ymestyn o Treuddyn (ger Wrecsam) i Glogwyni Sedbury (yn Swydd Caerloyw). Heddiw, mae llwybr Clawdd Offa yn lwybr poblogaidd iawn yn agos i'r ffin fodern rhwng Cymru a Lloegr. Mae tudalennau gwe Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys yn darparu hanes y clawdd.

Mae Celtic Britain yn rhoi hanes bras Cymru (OC 800-1000) a map o Gymru sy'n cynnwys yr hen freniniaethau. Mae Vortigern Studies yn cyflwyno hanes Prydain o ddiwedd y cyfnod Rhufeinig i'r oes Arthuraidd. Mae'r wefan yn cynnwys cyfeiriadau at hanes Cymru gan gynnwys erthyglau byr ar Dre'r Ceiri, Dinas Emrys, Foel Fenlli a dreigiau Dinas Emrys.

Un o arddangosfeydd gwefan Pathways to The Past yr Archifdy Gwladol yw 'Uniting the Kindoms?' 1066 to 1603. Mae'n edrych ar y perthnasau rhwng Lloegr, Yr Alban, Cymru, Iwerddon a Ffrainc yn ystod yr Oesoedd Canol: eu rhyngweithiadau, gwrthdrawaiadau a hunaniaethau. Taith hanesyddol ydyw o Gymru o 1055 pan reolwyd y wlad gan Gruffudd ap Llywelyn, Tywysog Gwynedd hyd 1603 pan ddaeth teyrnasiad y Tuduriaid yng Nghymru a Lloegr i ben. Yn 1485 bu i Harri Tudur ennill Brwydr Bosworth- mae Spartacus Education yn darparu bywgraffiad o Harri Tudur a hanes bywyd yng Nghymru'r Tuduriaid.

Cysylltir y cyfnod hwn hefyd ag Urdd y Sistersiaid, urdd crefyddol newydd a ddatblygodd yn ystod yr unfed ganrif ar ddeg. Llwybr a thaith bererindod o amgylch Cymru yw'r Cistercian Way sydd yn uno holl Abatai Sistersaidd Cymru, yn fodern a chanol-oesol. Mae'r daith gyfan yn tua 650 milltir o hyd. Mae'r wefan yn darparu cyflwyniad byr i'r Sistersiaid gan gynnwys nifer o ddolenni perthnasol i'w hanes. Mae'r wefan Cistercians in Yorkshire yn cynnwys rhestr o abatai Sistersaidd yng Nghymru. Maent yn cynnwys Aberonwy, Cwmhir, Cymer, Llantarnam, margam, Castell Nedd, Ystrad Fflur a Thyndyrn.

Am adnoddau ar Owain Glyndŵr a'i frwydrau, mae deunydd ar gael gan Gymdeithas Owain Glyndŵr neu Samhain Welsh Medieval a'i hanes byr o'r tywysogion Cymreig Llywelyn ap Gruffudd ac Owain Glyndw^r.

Mae Llyfr Du Caerfyrddin yn un o'r llawysgrifau Cymraeg hynaf sydd wedi goroesi. Credir i Lyfr Du Caerfyrddin fod wedi cael ei ysgrifennu yn y cyfnod o gwmpas 1250, fwy na thebyg gan fynach mewn priordy ger Caerfyrddin. Mae'r llyfr bellach yng ngofal y Llyfrgell Genedlaethol a mae ei 108 o dudalennau yn cynnwys gan fywaf farddoniaeth o wahanol fathau, yn cynnwys cerddi crefyddol, cerddi mawl a marwnad a rhai yn ymwneud a chwedl Myrddin.

16eg-18fed Ganrif

Dyma gyfnod cymharol dawel yn hanes Cymru, ond un a gysylltir â 'goresgyniad olaf Prydain'. Roedd y llynges Ffrengig yn bwriadu glanio yn Iwerddon, ond cafodd ei chwythu oddi ar ei chwrs, a dyna sut y bu iddynt lanio yn Abergwaun, Sir Penfro a gorfod delio felly â'r gwrthwynebiad disyfyd ym mherson Jemima Nicholas. Y mae'r tudalennau ar y we yn rhoi hanes byr am Jemima Nicholas a goresgyniad y Ffrancwyr yn 1797.

Gwelodd ddiwedd y 18fed ganrif hefyd ddechrau y chwyldro diwydiannol. Mae'r Isaac Wilkinson in Wales yn rhan o wefan 'The Wilkinson Family, Ironmasters'. Roedd John Wilkinson a'i deulu yn feistri haearn yn ystod cychwyn y chwyldro diwydiannol. Casgliad o nifer o draethodau hanesyddol yw'r wefan, ac mae'r adran ar Gymru yn canolbwyntio ar gyfnod Isaac Wilkinson yn ffwrnais Bersham ger Wrecsam. Roedd datblygiadau diwydiannol tebyg yn Amlwch, Ynys Môn. Mae'r wefan Copper Kingdom yn adrodd hanes cloddio am gopr ar Fynydd Parys a hanes y diwydiant yn yr ardal.

19eg Ganrif

Dyma gyfod y Gymru Ddiwydiannol a bu'n gyfrifol am lunio llawer o'n amgylchiadau socio-economaidd. Mae Prosiect Hanes Digidol Powys yn darparu hanes lleol cymunedau Powys gan ddefnyddio dogfennau archif, ffotograffau a mapiau cynnar. Mae'r safle'n darparu cyflwyniad ar wybodaeth gefndir y prosiect, ac mae yma lawer o ddolenni sy'n ymdrin ag agweddau penodol ar hanes lleol gan gynnwys trosedd a chosb, addysg ac ysgolion, crefydd yng Nghymru, a gofal am y tlawd. Yn gynwysedig hefyd ar y wefan y mae adran i ysgolion sy'n edrych ar Bowys oes Fictoria.

Saif Judge's Lodging Museum yn Llanandras ym Mhowys. Mae'r amgueddfa yn rhoi cyfle i'r ymwelydd i weld bywyd fel ag yr oedd yn ystod Oes Fictoria yn y Neuadd Sir benodol hon. Mae'r wefan yn gyflwyniad i'r amgueddfa, ac mae'n darparu taith rhyngweithiol o'r adeilad. Yn ogystal, mae'n cynnwys hanes Judge's Lodging, cyfleoedd addysgol yn yr amgueddfa, a disgrifiad byr o Lanandras ym Mhowys. Adnodd arall ar Fywyd Foctorianaidd yw Victorian Pontypridd sydd yn 'bortread o'r dref a'i phobl, gan greu cymeriad a naws.'

Roedd hefyd yn gyfnod o dlodi a chaledi mawr i lawer. Mae 'The Story of Workhouses' yn darparu canllaw ar gyfer pob sir i ddeddf ddiwygiedig Cyfraith Tlodion a thlotai yng Nghymru 1834 ac mae'n rhan o wefan gan Peter Higginbothom, sef The Story of Workhouses. Mae'r wefan yn cynnwys manylion ar leoliadau tlotai yng Nghymru yng nghyfnod undeb cyfraith y tlodion a lluniau cyfredol o'r adeiladau fel y maent heddiw. Gyda Terfysgoedd Beca gwelwyd tollbyrth mewn sawl rhan o dde a gorllewin Cymru yn cael eu dinistiro rhwng 1839 a 1844 - arwydd o anniddigrwydd a thlodi llawer o'r boblogaeth wledig ar y pryd.

Mae Plant y Chwyldro yn adnodd addysgol ar gyfer Cyfnod Allweddol 2, sy'n cael ei gyflwyno gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru. Bwriad yr adnodd ydy ehangu gwybodaeth a dealltwriaeth plant am hanes, ac yn datblygu eu medrau a'u hyder ym meysydd TGCh a Llythrennedd. Mae'n cynnwys ddeunyddiau o ffynonellau gwreiddiol, delweddau a gwybodaeth ategol, taflenni gwaith a gweithgareddau addas, ac amrywiaeth o brofiadau aml-gyfrwng sydd yn gysylltiedig a'r chwyldro diwydiannol.

Datblygodd llawer o drefi a phentrefi i fod yn ganolfannau diwydiannol o bwys yn ystod y cyfnod hwn. Mae 'Caerdydd: Hanes Adeiladu Prifddinas' yn dogfennu twf Caerdydd o fod yn dref gymharol fechan i fod y porthladd allforio glo mwyaf yn y byd erbyn diwedd y 19eg ganrif. Mae'r prosiect yn rhoi mynediad i nifer fawr o gynlluniau gan gynnwys sinemau, llwybrau ci, gwestai, ysgolion, swyddfeydd, eglwysi, mosgau, synagogau, factrioedd, tai, siopau, bariau coffi, lochesi cyrchoedd awyr a llawer mwy.

Adnodd arall yn canolbwyntio ar y chwyldro diwydiannol yng Nghymru yw gwefan Tribute to the Rhondda. Hanes economaidd-gymdeithasol o Gymoedd Rhondda yn ystod y cyfnod 1800 i 1950 sydd ar y wefan hon. Ceir ymdriniaeth fanwl o'r diwydiant glo a'r ffordd o fyw yn y cymunedau hyn. Mae'n hanes cynhwysfawr o'r Rhondda ac mae gwaith yr awdur a'i ymchwil drylwyr yn canolbwyntio ar amodau byw, afiechydon glowyr, trafnidiaeth, merlod pwll glo, amodau gwaith a Therfysgoedd Tonypandy. Ym Merthyr Tudul gwelwyd y locomotif stêm cyntaf yn y byd i halio llwyth ar reilffordd'. Cafwyd y siwrnai gyntaf hanesyddol rhwng Penydarren, Merthyr Tudful i Abercynon, a bydd Trevithick 2004 yn cael ei dathlu gan gyfres o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd o fis Chwefror hyd at fis Medi 2004. Mae gan Treftadaeth Blaenau Gwent hanes Siartwyr Blaenau Gwent a datblygiadau diwydiannol yn y cwm (Cliciwch ar ran treftadaeth yr hafan)

Ymladdwyd brwydr Rorke's Drift ar y 22-23ain o Ionawr, 1879, pan amddiffynnodd tua 150 o filwyr orsaf gyflenwi yn erbyn tua 4000 o Swliaid. Gwobrwyd un ar ddeg o Groesion Victoria, y mwyaf erioed i un gatrawd am un frwydr. Mae'r wefan yn darparu hanes y frwydr a'r un ar ddeg o enillwyr medalau.

20fed Ganrif

Mae gwefan Canrif o Brifwyl yn adrodd hanes Cymru, Ewrop a'r byd yn ystod yr ugeinfed ganrif drwy gyfrwng yr Eisteddfod Genedlaethol.

Adnodd sy'n canolbwyntio ar fywyd yng nghymunedau glofaol de Cymru yw CWM . Mae prosiect y CWM (Coalfield Web Materials) yn cwmpasu diwydiant glo De Cymru ac mae'n digido ffotograffau a deunydd hanes llafar (sain, fideo) a welir o fewn Casgliad Meysydd Glo De Cymru, Prifysgol Cymru. Mae'r prosiect yn cwmpasu ystod eang o themâu gan gynnwys digwyddiadau megis streiciau niferus y glowyr yng Nghymru, bywyd yn y lofa (gan ganolbwyntio ar economi, cymdeithas, crefydd a gwleidyddiaeth), a bywgraffiad byr o unigolion megis Aneurin Bevan, SO Davies and Keir Hardie. Ar y wefan hefyd ceir cyfleuster chwilio, arweiniad ar sut i ddefnyddio'r safle a llwybrau dysgu i'w defnyddio mewn addysg.

Mae Llechwefan yn darparu gwybodaeth digidol ac ystod o ddeunyddiau dysgu ar Ddiwydiant Llechi Gogledd Cymru a'r cymunedau sy'n gysylltiedig â hi. Mae'r prosiect yn fenter gydweithredol ac yn cynnwys technegau cloddio, hanes cloddio, amodau byw a streiciau tâl, isadeiledd trafnidiaeth a'r effaith a gafodd y diwydiant llechi ar fywyd cymunedol yng Ngogledd Cymru.

Mae Pontypridd at War yn edrych ar hanes y ffoaduriaid ac mae'n cynnwys crynodeb o benodau yn y llyfr sy'n disgrifio bywyd yn y dref a'r pentrefi cyfagos yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a'r blynyddoedd yn union o'i flaen ac ar ei ôl. Mae Swansea Heritage Net hefyd yn edrych ar yr Ail Ryfel Byd.

Mae'r wefan People's War gan BBCi yn darparu hanes o'r Ail Ryfel Byd wedi'w adrodd gan y rhai fu fyw trwyddo. Mae'r wefan yn cynnwys hanesion pobl gyffredin oedd gartref gan gynnwys atgofion o'r cyrchoedd awyr a mudo plant, a gan filwyr â ymladdodd yn y rhyfel ynghyd ag erthyglau gan arbenigwyr milwrol. Gallwch ddod o hyd i hanesion am ddigwyddiadau yng Nghymru yn ystod y rhyfel drwy glicio ar yr adran Cymru.

Mae Ymgyrchu yn olrhain canrif o ymgyrchu gwleidyddol a chymdeithasol yng Nghymru, gan ddefnyddio ffynonellau o'r Archif Wleidyddol Gymreig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.Mae'r themâu o fewn Ymgyrchu yn cynnwys:

  • Datganoli
  • Yr Iaith Gymraeg
  • Streic y Glowyr
  • Y Diwydiant Dŵr
  • Heddwch ac Rhyfel
  • Etholiadau yng Nghymru

Mae'r Llyfrgell Genedlaethol hefyd yn gyfrifol am Arddangosfa Lloyd George.

Mae gwybodaeth am ddigwyddiadau megis Streic y Glowyr ym 1984 a Refferendwm Datganoli 1997 ar gael o wefan y BBC.