Curriculum Cymreig--Cerdd
Cynnwys- Cerddoriaeth
Cerddoriaeth yng Ngymru- adnoddau cyffredinol- general resources | Hanes cerddoriaeth | Cerddoriaeth werin | Cerdd dant | Cerddoriaeth boblogaidd | Cantorian | Opera | Corau | Bandiau a cherddorfeydd | Y delyn a'r piano | Cyfansoddwyr | Jazz a cherddoriaeth y byd | Gwyliau cerddorol |
Cerddoriaeth yng Nghymru- Adnoddau cyffredinol
Mae gan Gymru draddodiad cerddorol cyfoethog ac amrywiol iawn ac mae o berthnasedd mawr i'r Cwricwlwm Cymreig. Rhwydwaith gwasanaeth gwybodaeth am gerddoriaeth yw Tŵ Cerdd (Welsh Music Centre) sy'n dod â byd o gerddoriaeth i Gymru a cherddoriaeth Cymru i'r byd. Partneriaeth yw Tŵ Cerdd rhwng nifer o gymdeithasau cerdd a cherddorfaol yng Nghymru, a'r Ganolfan Wybodaeth ar Gerddoriaeth Cymru. Mae'r wefan yn darparu gwybodaeth am Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru, Canolfan Wybodaeth ar Gerddoriaeth Cymru, Cyfansoddwyr Cymru a gŵyl Gelfyddydau Genedlaethol i Ieuenctid. Mae Cerdd Gymunedol Cymru yn anelu at ddarparu gweithgareddau cerdd ar gyfer ystod eang o bobl , yn enwedig y rhai sy'n cael anhawster mynychu gweithgareddau cerddorol. Mae'r safle'n darparu gwybodaeth am brosiectau, a gwybodaeth gyswllt, ac fe'i lleolir yng Nghaerdydd. Mae Cerdd Gymunedol Cymru yn gorff ymbarel dros gerddoriaeth gymunedol yng Nghymru ac yn ymrwymedig i ddatblygu cerddoriaeth greadigol dros Gymru. Mae sefydliadau cerddorol eraill o bwys yn cynnwys Sefydliad Cerddoriaeth Cymru yn Adran Gerdd Prifysgol Cymru Bangor a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Hanes Cerddoriaeth
Gallai'r rhai sydd â diddordeb mewn hanes cerddoriaeth ymweld â gwefan hanes cerddoriaeth yng Nghymru Josef Bayer. Mae Cecilia yn adnodd arall sy'n cynnwys gwybodaeth hanesyddol. Canllaw ar-lein i gasgliadau cerddoriaeth mewn archifau, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd yn y DU ac Iwerddon yw Cecilia.
Cerddoriaeth Werin
Mae amcanion Trac yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o ddawnsio gwerin yng Nghymru a thu hwnt ac i hybu cydweithio. Mae gan y wefan ran newyddion a digwyddiadau wedi'w ddiweddaru, a mae'n rhoi gwybodaeth ar a chysylltiadau i wyliau gwerin, sefyldiadau a pherfformwyr yng Nghymru. Mae yno hefyd fynediad i gylchlythyr Trac, sy'n adrodd ar newyddion a datblygiadau ym myd y traddodiadau gwerin yng Nghymru. Mae Celfyddydau Mari Arts hefyd yn darparu gwybodaeth am gerddoriaeth a cherddorion gwerin yng Nghymru.
Mae casgliad Ceolas yn darparu gwybodaeth am gerddoriaeth Geltaidd. Ar y wefan darperir gwybodaeth am yr offerynnau dull celtaidd mwyaf poblogaidd, proffiliau a disgyddiaethau cannoedd o gerddorion a grwpiau, cerddoriaeth fyw a llawlyfrau rhanbarthol. Y mae nifer o gyfeiriadau at Gymru ar y wefan.
Mae Crasdant yn fand sy'n defnyddio telyn draddodiadol Cymru, y delyn deires unigryw, gyda ffliwtiau, ffidil, acordion, gitar ac offeryn corsen Cymreig - y pibgorn. Mae gwefan y band yn darparu bywgraffiad o bob aelod o'r band a gwybodaeth am yr offerynnau traddodiadol maent yn eu defnyddio. Mae'r band hefyd yn darparu gweithdai gydag ysgolion yng Nghymru er mwyn eu haddysgu am yr offerynnau a'r ddawns y glocsen draddodiadol Gymreig. Mae Canu Traddodiaol Cymreig yn darparu gwybodaeth ar nifer o fandiau Cymreig ac yn cynnwys bas data ar-lein o ganeuon gwerin. Mae yno hefyd fynediad ar-lein i nifer o erthyglau ar gerddoriaeth werin Gymreig gan gynnwys offerynnau traddodiadol Gymreig, dawnsio traddodiadol, y grwth a'r delyn deires Gymreig.
Cerdd Dant
Ffurf gerddorol unigryw i Gymru yw Cerdd Dant. Gŵyl flynyddol yw'r Gŵyl Gerdd Dant a gynhelir mewn gwahanol rannau o Gymru bob blwyddyn. Mae'r wefan yn y Gymraeg yn bennaf ond ceir fersiwn 'Beth yw Cerdd Dant?' yn Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg ac Eidaleg.
Cerddoriaeth Poblogaidd
Mae 'Cool Cymru' a cherddoriaeth boblogaidd wedi dod â dimensiwn ychwanegol i fywyd diwylliannol Cymru yn ddiweddar. Mae gwefan gerddoriaeth BBC Cymru yn cynnwys gwledd o wybodaeth am gerddoriaeth yng Nghymru: yn Gymraeg a Saesneg ei iaith. Mae'r safle yn cynnwys y newyddion diweddaraf, portreadau o artistiaid, adolygiadau, arweiniad i gigiau a'r siartiau diweddaraf o Gymru. Mae gan grwpiau pop fel y Manic Street Preachers a Stereophonics i gyd eu gwefannau eu hunain. Mae nifer o safleoedd eraill yn bodoli ar gyfer grwpiau Cymreig llai adnabyddus. Mae sawl gwefan hefyd sydd yn bodoli er mwyn hyrwyddo a datblygu talent newydd yng Nghymru. Maent yn cynnwys Total Music Wales, WelshUnsigned.com a Pynci. Mae Total Music Wales yn cyflwyno gwybodaeth a phorth i adnoddau cerddoriaeth yng Nghymru. Mae ynddo gyfeirlyfr i gyhoeddwyr, ystafelloedd ymarfer, stiwdios recordio a labeli recordiau yng Nghymru.
Porth ar gyfer artistiaid cerddorol Cymreig sydd heb arwyddo i unrhyw label yw WelshUnsigned.com. Gall artistiaid gofrestru eu hunain ar y safle, a mae posib chwilio am artistiaid yn eich ardal ac i ymuno a'r fforwm ar-lein. Mae gan Curiad restr A-Y o fandiau, grwpiau ac artistiaid Cymreig (mae gan sawl cofnod wybodaeth a disgyddiaeth ar gyfer bandiau), a rhestr o labeli a chwmniau recordio, fel sydd gan adran BBC Music Profiles y BBC. Noder fod peth o'r wybodaeth ar Curiad yn ddyddiedig.
Cantorion
Bu gan Gymru erioed ei chyfran o gantorion. Maent yn cynnwys:
- Max Boyce
- Stuart Burrows
- Charlotte Church
- Jason Howard
- Katherine Jenkins
- Aled Jones
- Cerys Matthews
- Bryn Terfel
Mae adran BBC Music Profiles yn cynnwys bywgraffiadau byr a disgyddiaeth ar gyfer nifer o gantorion Cymreig. Maent yn cynnwys Bryn Terfel, Aled Jones, Charlotte Church, Sir Geraint Evans, Harry Secombe, Gwyneth Jones, Ivor Novello, Joseph Parry, Max Boyce, Shirley Bassey, Mary Hopkin ac Adelina Patti.
Dechreuwyd cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd gan BBC Cymru ym 1983 ac mae'n ddigwyddiad sy'n cymeryd lle bob yn ail Mehefin. Heddiw, fe'i ystyrir yn un o gystadlaethau canu pwysicaf y byd, a bydd canoedd o gantorion ifanc o bob cwr o'r byd yn cystadlu bob tro. Mae'r wefan yn darparu arweiniad i'r gystadleuaeth a'i hanes, manylion y cyngherddau, y rheolau a'r bobl sydd ynghlwm â'r gystadleuaeth.
Opera
Mae nifer o Gwmniau Opera yn bodoli yng Nghymru. Rhestrir y rhain yn Cymru ar y We a maent yn cynnwys:
Cwmni addysg gerddorol ac opera teithiol wedi'w lleoli yn Aberhonddu, Powys yw Opera Box sydd wedi gweithio gyda nifer o ysgolion yng Nghymru. Cysylltir Adelina Patti hefyd â Chymru- treuliodd llawer o'i bywyd yng Nghastell Craig y Nos sydd wedi'w leoli rhwng Aberhonddu ac Abertawe. Mae Theatr Adelina Patti hefyd yn gartref i Ysgol Opera Cymru sydd yn cynnig hyfforddiant cyn-alwedigaethol i gantorion opera proffesiynnol ifanc.
Corau
Mae gan nifer o gorau bresenoldeb ar-lein ac mae'n bosib weithiau i ddadlwytho rhai caneuon o'u cyngherddau. Rhestrir y corau hyn o fewn adran lleisiau cymysg/corau Cymru ar y We.
Bandiau a Cherddorfeydd
Mae ensembles offerynnol hefyd yn ran pwysig o'n traddodiad cerddorol. Rhestrir nifer o fansiau pres, llawer ohonynt wedi'w sefydlu yn y 1880au, yn Cymru ar y We. Mae Gerddorfa Genedlaethol y BBC a Chorws Cenedlaethol Cymru y BBC yn darparu mynediad i erthyglau newyddion, cwisiau cerddorfaol, a phytiau bywgraffyddol am yr arweinyddion.
Y delyn a'r piano
Mae'r delyn yn offeryn sydd wedi'w chysylltu â Chymru ers blynyddoedd. Mae telynoresau cyfoes adnabyddus yn cynnwys:
Mae Iwan Llywellyn Jones yn bianydd sydd wedi profi llwyddiant mewn nifer o gystadlaethau rhyngwladol. Mae wedi perfformio mewn lleoliadau megis y Wigmore Hall yn Llundain ac mae'n garlledu'n gyson ar y radio a'r teledu. Derbyniodd gymorthdal 'Arts for All' gan y Comisiwn Loteri mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru a mae wedi cynnal gweithdai mewn nifer o ysgolion. Mae'r wefan yn cynnwys bywgraffiad, adolygiadau o'i gyngherddau ac adnoddau dysgu ar gyfer ysgolion.
Cyfansoddwyr
Mae cyfansoddwyr o bwys mawr i Gymru a'r byd cerddorol yn gyffredinol. Mae cyfansoddwyr sydd ag adnoddau gwe yn trafod eu gwaith yn cynnwys:
Cyfansoddwr Cymreig cyfoes a byd enwog yw Karl Jenkins- mae nifer o wefannau yn bodoli gyda gwybodaeth am y cyfansoddwr o Benclawdd a'i waith Amedius gan gynnwys un gan Learn ICT yn arbennig ar gyfer ysgolion. Mae Urdd Cerddoriaeth Cymru yn gorff sydd yn hyrwyddo cerddoriaeth cyfansoddwyr o dras Cymreig, ac yn annog cyfansoddwyr cyfoes i berfformio cerddoriaeth. Sefydlwyd Cyfansoddwyr Cymru fel corff i 'gynrychioli holl gyfansoddwyr Cymru, yn broffesiynol ac yn fyfyrwyr, ym mhob cangen o gerddoriaeth, gydag aelodaeth gysylltiol i bersonau a chyrff sydd am ein cefnogi.' Mae Cyfansoddwyr Cymru yn cynnig cymorth a gwasanaethau proffesiynnol i'w aelodau yn ogystal â chyhoeddi cylchlythyr chwarterol sy'n cynnwys newyddion a gwybodaeth ar gyfer cyfansoddwyr.
Jazz a Cherddoriaeth y Byd
Mae Cymru yn gartref i ŵyl Jazz Aberhonddu, gŵyl jas ryngwladol o fri ac mae'n un o brif ŵyliau Cymru. Mae'r wefan Jazz Cymru yn cynnwys nifer o ddolenni i wefannau sy'n ymwneud â jazz yng Nghymru ac o ŵyliau jazz i ganwyr jazz o Gymru. Mae Cymdeithas Jazz Cymru yn hyrwyddo a datblygu gwerthfawrogiad cerddoriaeth jazz byw o bob math, trwy berfformio ac addysg. Tra mae gwefan Menywod Mewn Jazz yn cynnwys ymchwil i mewn i ymddangosiadau cerddorion jazz a'u cysylltiadau gyda Chymru. Mae'n 'hanes socio-ddiwylliannol o gerddoriaeth Americanaidd Affricanaidd yng Nghymru ers y 1800'.
Band sydd wedi bod yn weithgar iawn yng Nghymru yn ddiweddar yw Samba Galéz, band cymunedol o Gaerdydd. Mae'r cerddoriaeth wedi'w seilio ar rythmau Affricanaidd. Mae'r band yn cwrdd bob dydd Sadwrn yn Splott ac yn cynnal gweithdai ar gyfer dechreuwyr. Maent yn perfformio mewn nifer o wyliau cenedlaethol a lleol.
Gŵyliau cerddorol
Dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer o ŵyliau cerddorol o wahanol faint wedi ymddangos ledled Cymru. Maent yn amrywio o ŵyliau pentrefol i ŵyliau cenedlaethol megis Eisteddfod Genedlaethol Cymru neu Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
- Faenol
- Sesiwn Fawr Dolgellau
- Dinbych
- Pontardawe
- Llantilio Crossenny
- Gŵyl Llanadras
- Gŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol Gogledd Cymru
Yn anffodus, nid oes gan yr holl ŵyliau hyn bresenoldeb ar-lein ond am restr mwy cyflawn, mae'n werth ymweld a gwefan Cerdd Ystwyth sydd â rhestr o ŵyliau Celfyddydol yng Nghymru neu restrau Cymru ar y We o ŵyliau Celfyddydol a gŵyliau Cerddorol.