Online News Guide --> Canolbarth Cymru
Ar gyfer canolbarth cymru mae'n werth ymweld â'r gwefannau sy'n dilyn. Mae dalgylch y gwasanaethau newyddion ar-lein yma yn cynnwys Ceredigion a Phowys.
Newyddion BBC - Canolbarth Cymru
Cyhoeddir y papurau newydd electronig 'Heddiw' gan Cambrian News ac fe'i diweddarir yn wythnosol. Mae gan bob cyhoeddiad ar-lein gasgliad o newyddion o bob ardal. Maent yn rhan o Tindle Newspapers Ltd. Mae'r gwefannau hyn hefyd yn cynnwys cyfeirlyfr ar-lein i nifer o wasanaethau lleol
- Aberteifi Heddiw>
- Aberystwyth Heddiw
- Y Drenewydd Heddiw
- Llambedr Pont Steffan Heddiw
- Machynlleth Heddiw
Mae'r papurau newydd electronig dilynnol yn rhan o North Wales Newspapers.
Oswestry and Border Counties Advertizer
Mae cylchrediad yr Advertizer yn ymestyn i ardal Y Waun yng Nghlwyd a Llanfyllin ym Mhowys.
Mae gan y County Times gylchrediad eang ym Mhowys gyda phwyslais arbennig ar Faldwyn. Mae ei gylchrediad yn cynnwys trefi fel Y Trallwng, Y Drenewydd, Llanidloes, Machynlleth, Llanfair Caereinion a Threfaldwyn.
Dyma restr o bapurau bro canolbarth Cymru a darperir gan BBC Cymru'r Byd. Mae yna dolenni i'r Blewyn Glas (papur bro ardal Machynlleth), Clonc (papur bro ardal Llanbedr Pont Steffan), Llais Aeron (papur bro Dyffryn Aeron), Papur Pawb (papur bro rhwng pentrefi Tal-y-Bont ac Eglwysfach), Plu'r Gweunydd (papur bro y Trallwng a'r cyffiniau), Seren Hafren (papur bro Dyffryn Hafren), Y Tincer (papur bro pentrefi gogledd Ceredigion), Y Barcud (papur bro ardal Tregaron), Y Ddolen (papur bro ardal Pumlumon, Cwmystwyth a Chwm Wyre), Y Gambo (papur bro de orllewin Ceredigion), Y Garthen (papur bro ardal Castellnewydd Emlyn a Llandysul), Y Fan a'r Lle (papur bro ardal Llanfair ym Muallt ac Aberhonddu), Yr Angor (papur bro Aberystwyth a'r cyffiniau), a'r Ysgub (papur bro ardal Croesoswallt a Llanfyllin).