Ymuno â'r Llyfrgell

Hanes Fy Chwilio

mwy...

Cymorth:

Curriculum Cymreig--Gwyddoniaeth


Cynnwys- Gwyddoniaeth

Adnoddau gwyddoniaeth cyffredinol | Gwyddonwyr o Gymru | Amgylchedd Naturiol Cymru | Yr Amgylchedd | Datblygiad Cynaladwy | Ailgylchu | Ynni adnewyddadwy | Adar, Anifeiliaid | Planhigion | Seryddiaeth |


Adnoddau gwyddoniaeth cyffredinol

Mae nifer o wefannau yn trin agweddau gwahanol o wyddoniaeth yng Nghymru. Dyma orolwg byr o'r adnoddau sydd ar gael.

2004 yw Blwyddyn Gwyddoniaeth Cymru. Cyllidir Blwyddyn Gwyddoniaeth Cymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Y nod yw hyrwyddo ac annog gweithgareddau gwyddonol a chodi ymwybyddiaeth o'r pwnc. Mae Blwyddyn Gwyddoniaeth Cymru yn cynnwys gwybodaeth ar gyllid i brosiectau a gweithgareddau gwyddonol, a dyddiadur o ddigwyddiadau gwyddonol y dyfodol a'r gorffennol.

Mae nifer o Gymdeithasau Gwyddonol wedi'w sefydlu dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o bynciau gwyddonol yng Nghymru. Maeant yn Y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol a changen Caerdydd y gymdeithas - Cymdeithas Wyddonol Cylch Caerdydd. Y nod yw hyrwyddo trafodaethau ar destunau gwyddonol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Canolfan rithwir yw Canolfan Edward Llwyd i ddatblygu a dysgu cyrsiau gwyddonol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r pynciau sy'n cael eu trin yn cynnwys Bioleg, Daearyddiaeth, Daeareg, Ffiseg, Cyfrifiadureg, Astudiaethau Gwledig, ac Amaethyddiaeth. Yn ogystal bydd y wefan yn cynnwys adnoddau ac erthyglau ychwanegol, wedi'u casglu a'u cyflwyno mewn partneriaeth â'r Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol. Cymdeithas Edward Llwyd yw 'cymdeithas genedlaethol naturiaethwyr Cymru'. Mae'r gymdeithas hefyd yn cyhoeddi cylchlythyrau, llyfrau ac yn trefnu darlithoedd a digwyddiadau cymdeithasol fin nos.

Digwyddiad gwyddonol blynyddol yw Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam a sefydlwyd ym 1998 er mwyn 'hyrwyddo dealltwriaeth y cyhoedd am wyddoniaeth, cefnogi addysg wyddonol mewn ysgolion ac annog arloesi a menter yn y gymuned fusnes'.

Am gyfle i ddarganfod mwy am yr amgylchedd yn eich ardal leol neu astudio agweddau gwahanol o faterion gwyddonol neu amgylcheddol mae'n werth ymweld â'r gwefannau'r canolfannau canlynol:

  • Canolfan Bywydeg a Meddygaeth Darwin sef canolfan wyddoniaeth, addysg, ymchwil a sabothol. Yn gynwysedig ar y wefan y mae nifer o erthyglau, a darperir rhestr o'r digwyddiadau addysgol yn yr ardal.
  • Canolfan Amgylcheddol Glyncornel ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
  • Canolfan Ymchwil Gwyddonol yng Nghaerdydd yw Techniquest ac oherwydd y nifer o arddangosfeydd mae yn ganolfan addysgol rhagorol i ysgolion. Y nod yw cynyddu y dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o wyddoniaeth. Mae gan y wefan adran thema ysgolion gyda gwybodaeth cwricwlaidd a manylion am weithgareddau a digwyddiadau.
  • Techniquest@Newi ydy Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth mwyaf Gogledd Cymru.
  • Mae'r Ganolfan Dechnoleg Amgen ger Machynlleth yn un o'r canolfannau ecolegol mwyaf blaenllaw yn Ewrop. Elusen addysgol ydyw sy'n ymdrechu i sicrhau'r cydweithrediad gorau rhwng y byd naturiol, technolegol a dynol.
  • Mae Canolfan Maes Parc Margam yn ganolfan addysg amgylcheddol sy'n darparu cyrsiau diwrnod a phreswyl ger Port Talbot.
  • Mae Canolfan Faes Rhyd y Creuau ym Metws y Coed yn Nyffryn Conwy. Mae'n ganolfan addysg amgylcheddol sy'n darparu cyrsiau dydd a phreswyl.

Cylchgrawn cyfrwng Cymraeg yw Delta sy'n ymdrin â phynciau gwyddonol a thechnolegol, ac fe'i gyhoeddir gan Brifysgol Cymru Aberystwyth. Mae Adnoddau Mathemateg a Gwyddoniaeth yn darparu mynediad i adnoddau Cymraeg eu hiaith ar bynciau mathemateg a gwyddoniaeth. Mae'r adnoddau sydd ar gael yn cynnwys taflenni gwaith, ymarferion ac atebion ar gyfer ysgolion uwchradd. Mae gwefan Tacteg Gwyddoniaeth gan y BBC yn cyflwyno gwybodaeth angenrheidiol o raglen astudio cwricwlwm Gwyddoniaeth. Ym mhob adran mae gweithgaredd rhyngweithiol, dalen ffeithiau a chwis. Mae'r wefan wedi'w hanelu at plant yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3.

Amcan Gwyliau Cemeg Slaters yw helpu hyrwyddo cemeg a gwyddorau perthnasol ymysg yr ifanc. Mae'r Gwyliau yn ddigwyddiadau un-dydd hwyliog sy'n cael eu cynnal mewn prifysgolion ledled y DU ac Iwerddon sy'n cychwyn ddiwedd Mawrth ac yn parhau hyd ganol Mehefin. Yng Nghymru, y lleoliadau yw Prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe. Mae gwybodaeth am ddyddiadau'r gwyliau a sut i gymeryd rhan i'w cael ar y wefan.

Gwyddonwyr Cymru

Mae Cymru wedi darparu mwy na'i chyfran deg o wyddonwyr. Man cychwyn da ar gyfer gwybodaeth am wyddonwyr Cymreig yw gwefan 100 Arwyr Cymru a Scifiles gan y BBC. Mae nifer o adnoddau am wyddonwyr Cymreig hefyd ar gael o fewn adran bywgraffiadau Cymru ar y We. Maent yn cynnwys:

Amgylchedd Naturiol Cymru

Mae gan Gymru dirwedd gyfoethog ac amrywiol - un sydd yn darparu nifer o gyfleon dysgu ac enghreifftiau. Mae adran Gwyddorau Daear, Daeareg ac Ecoleg Cymru ar y We yn cynnwys nifer o adnoddau yn ymwneud â thirwedd naturiol Cymru. Mae gan y Canllaw Cwricwlwm Daearyddiaeth hefyd orolwg o dirwedd naturiol Cymru.

Yr Amgylchedd

  • Mae Eco-ganolfan Gorllewin Cymru yn cynnwys gwybodaeth am effeithlonrwydd ynni domestig a thechnolegau y gellir eu hadnewyddu, ac mae'n targedu amgylcheddwyr ac addysgwyr fel ei gilydd. Mae ganddo hefyd nifer o daflenni ffeithiau defnyddiol a chanolfan ymwelwyr yn Nhrefdraeth, Sir Benfro
  • Mae Canolfan yr Amgylchedd yn Abertawe ac mae'n elusen annibynol sy'n canolbwyntio ar wybodaeth amgylcheddol , addysg a gweithgareddau yn Ne Cymru.
  • Mae gan Partneriaeth Addysgwyr Amgylcheddol Pen-y-bont becynau adnoddau addysgol ar yr amgylchedd, ac astudiaethau achos gan ysgolion lleol.
  • Mae gan Cadwch Gymru'n Daclus wybodaeth ar Eco-ysgolion a'r rhaglen eco-ganolfannau. Eu nod yw Cymru di-sbwriel. Hwy sydd hefyd yn gyfrifol am y Cynllun 'Craff am Wastraff'

Ar gyfer Addysg Cyfrwng Gymraeg mae'r gymdeithas Gwaith Maes, sy'n cefnogi addysg amgylcheddol i ysgolion trwy gyhoeddi deunydd ar yr amgylchedd. Bu'r Gymdeithas yn gyfrifol am gyhoeddi'r cylchgrawn addysg amgylcheddol 'Gwaith Maes' a ddosbarthwyd i ysgolion yng Nghymru. Erbyn hyn, ceir mynediad ar-lein i Gwaith Maes, ac mae'n cael ei gyfrif fel adnodd gwerthfawr i ysgolion.

Mae adnoddau eraill yn cynnwys:

  • BTVC Cymru - elusen amgylcheddol ymarferol fwyaf Prydain, yn helpu dros 130,000 o wirfoddolwyr bob blwyddyn i wella eu hamgylchedd leol.
  • Elusen adfywio amgylcheddol flaenllaw Groundwork Wales sy'n gwneud datblygu cynaladwy yn wirionedd yng nghymdogaethau tlotaf y DU.

Mae nifer o adnoddau sy'n ymwneud â phroblemau amgylcheddol mewn ardaloedd penodol yng Nghymru. Sefydlwyd Gower SOS gan bobl leol sy'n gwrthwynebu'r codi tywod o Helwick Bank, milltir o lan orllewinol Gŵyr. Honnir bod y gwaith hwn yn gyfrifol am y gostyngiad yn lefel y tywod ar rai o draethau'r Gw^yr. Mae'r wefan yn cyflwyno crynodeb o'r bygythiad sy'n wynebu Bro Gwyr. Cafodd trychineb y Sea Empress ym 1996 ger Aberdaugleddau sylw cenedlaethol - dyma adnodd addysgol sy'n darparu gwybodaeth wyddonol a golwg ar y llygredd olew a achoswyd gan y Sea Empress. Mae'r Afon Gwy wedi gweld lleihad yn y nifer o bysgod dros y blynyddoedd diweddar oherwydd llygredd a rhwystrau. Me gwefan Sefydliad Gwy ac Wysg yn rhoi llawer o wybodaeth amgylcheddol am y rhesymau dros leihad yn y cyflenwad pysgod a llygredd yr afon.

Datblygiad Cynaladwy

Mae gan Ddatblygiad Cynaladwy gysylltiadau clir gyda'r Cwricwlwm yng Nghymru, yn arbennig mewn pynciau fel daearyddiaeth, gwyddoniath a dinasyddiaeth. Mae'r wefan Addysg i Ddatblygiad Cynaladwy Cymru yn adnodd defnyddiol ar gyfer athrawon ac mae'n egluro'n llawn ystyr datblygiad cynaladwy a pham ei fod mor bwysig. Mae ADC- Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaladwy yn wefan sy'n cynnwys gwybodaeth am ddatblygiadau ac adnoddau i gefnogi addysg ar gyfer datblygiad cynaladwy a dinasyddiaeth byd eang yng Nghymru. Mae gan y wefan gyfeirlyfr a map rhyngweithiol i sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau ADC neu gefnogaeth i ysgolion a cholegau (mae'n bosibl chwilio am y cyfeirlyfr trwy sir, ardal neu drwy nodi eich anghenion penodol megis Cyfnod Allweddol, y pwnc a astudir neu'r fath o adnodd sydd angen arnoch). Mae adroddiadau ADC yn cynnwys mynediad ar-lein i gyhoeddiadau sy'n delio gyda datblygiad a darpariaeth addysg ar gyfer Datblygiad Cynaladwy.

Mae nifer o wefannau eraill yn darparu deunydd perthnasol i ddatblygu cynaladawy. Maent yn cynnwys:

Am adnoddau perthnasol i ardaloedd penodol yng Nghymru, mae'n werth ymweld â:

Ailgylchu

Mae ailgylchu yn lleihau'r niwed i'r amgylchedd a achosir gan wastraff. Cylch sy'n anelu at hybu rheoli gwastraff cynaladwy yng Nghymru trwy addysg a gweithredu ymarferol. Maent yn darparu gwybodaeth ar ailgylchu ac ail-ddefnyddio deunyddiau o ddodrefn a nwyddau gwyn (fel peiriannau golchi ac oergelloedd), i bapur a gwydr.

Menter gymdeithasol yw Tools for Schools, sy'n anelu at gyflwyno 'cyflenwad hanfodol o gyfrifiaduron i'r system addysg er mwyn hwyluso mynediad i dechnoleg newydd'.

Ynni adnewyddadwy

Pwnc llosg yn y Gymru gyfoes yw ynni gwynt, yn arbennig codi ffermydd gwynt yng Nghymru. Mae dadleuon o blaid ac yn erbyn defnydd melinau gwynt ac meant yn fater dadleuol mewn sawl rhan o Gymru. Mae gwefannau yn ymwneud â ffermydd gwynt yng Nghymru yn cynnwys:

  • Sefydlwyd Ymgyrch Cefn Croes fel gwrthwynebiad i'r 39 tyrbin anferth y bwriedir eu hadeiladu ar Gefn Croes, ucheldir gwyllt ac eang uwchben pentrefi Cwmystwyth a Phonterwyd i'r de o Bumlumon Fawr yng Ngheredigion.

Agweddau bywydeg - Adar, Anifeiliaid

Mae sawl Ymddiriedolaeth a Gwarchodfa Natur yn bodoli yng Nghymru. Maent yn cynnwys:

Mae gwefan RSPB Cymru yn cynnwys gwybodaeth ar warchodfeydd yr RSPB yng Nghymru, A-Y o adar, adnoddau dysgu a ieuenctid, cyfleon gwirfoddoli, materion cadwraeth. Mae gwefan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt hefyd yn cynnwys rhestr o'r holl ymddiriedolaethau yng Nghymru.

Mae yna dros 90 'Ardal Gadwraeth Arbennig' yng Nghymru. Tair o'r rhai pwysicaf yw:

Adaeryn ysglyfaethus sydd wedi gweld adferiad hynod yn ddiweddar yw'r Barcud Coch. Prosiect twristiaeth bywyd gwyllt yw Gwlad y Barcud, ac fe'i sefydlwyd ar Fferm y Gigrin, Rhaeadr, er mwyn i ymwelwyr ddod i weld y Barcudiaid Coch, yn eu hamgylchedd naturiol eu hunain. Mae'r wefan yn cyflwyno hanes y Barcud Coch, ac yn egluro sut y bu iddo fod mewn perygl o ddifodiant. Yn ogystal darperir gwybodaeth am y chwech o Ganolfannau Gwledig i Farcudiaid yng Nghanolbarth Cymru.

Mae dolffiniaid a morloi ill dau yn rywogaethau sydd o dan fygythiad. Mudiad elusennol a leolir yn y DU yw sefydliad 'SeaWatch'. Mae'n gyfrifol am fonitro'r morfilod, llamidyddion a'r dolffiniaid sy'n byw yn nyfroedd Prydain ac Iwerddon. Mae'r safle'n cyflwyno gwybodaeth am brosiectau, adroddiadau, pethau a welir yn nyfroedd Prydain (a Chymru), addysg, arolygon, lluniau, dolenni a gwybodaeth gyswllt yng Nghymru a'r DU ar y cyd. Yn gynwysedig ar y wefan cofnodir gwybodaeth am y Ganolfan Bywyd Gwyllt Morol yng Nghei Newydd, Ceredigion, a'r cyfleusterau a'r cyrsiau sydd ar gael yma.

Mae Save Our Seas yn wefan wedi'w chreu ganMarine Awareness North Wales er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r bygythiad sydd yn wynebu'r amgylchedd forol heddiw. Mae'r wefan yn darparu gwybodaeth ar fywyd morol yn y Fenai a'r Ganolfan Ymwybyddiaeth Môr ym Mangor. Mae'n adnodd addysgol ardderchog ar y problemau amgylcheddol sy'n wynebu bywyd morol oddi ar arfordir Gogledd Cymru.

Planhigion

Mae Gerddi Botaneg yn rhoi cyfle gwych i ymwelwyr weld mathau prin o blanhigion. Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, prosiect yn llawn gweledigaeth a ffenestr siop gwyddor botaneg. Sefydlwyd yr Ardd gogyfer â'r Mileniwm newydd ym Middleton Hall, Sir Gaerfyrddin. Mae gan adran Gerddi Botaneg Cymru ar y We restr o adnoddau eraill am erddi botaneg sydd ar agor i'r cyhoedd.

Seryddiaeth

Mae seryddiaeth wedi derbyn sylw cynyddol dros y misoedd diwethaf o ganlyniad i ddwy daith ddiweddar i'r blaned Mawrth. Mae gwefan swyddogol taith y Beagle 2, y daith i Fawrth a arweinwyd gan Brydain, yn darparu deunydd addysgol am y blaned goch. Adeiladodd y Grwp Roboteg Gofod yn Adran Gyfrifiaduraeth Prifysgol Cymru Aberystwyth y fraich robotig sydd yn ran allweddol o ymchiliad Beagle 2 i fywyd ar y blaned.

Mae'r wefan Hanes Seryddiaeth yng Nghymru yn darparu gwybodaeth yn ymwneud â hanes seryddiaeth yng Nghymru. Ar y safle dogfennir gwaith seryddwyr amatur, cyfraniadau at ymchwil wyddonol wreiddiol, a gweithgareddau seryddol a gyflawnwyd gan bobl yng Nghymru, neu gan bobl a chanddynt gysylltiad cryf â'r wlad.

Yn olaf, mae Prosiect Telesgôp Faulkes. Bydd y Prosiect Telesgôp Faulkes, sydd yn cynnwys seryddwyr o brifysgol Caerdydd, yn galluogi i ddysgyblion astudio'r gofod, planedau, sêr a'r galaeth o'u hystafell ddosbarth drwy'r rhyngrwyd. Bydd disgyblion yn gallu llywio'r telesgôpau dros y rhyngrwyd a dadlwytho lluniau lliw o ansawdd uchel o ddyfnder y gofod. Ariannir y prosiect gan Ymddiriedolaeth Addysgol Dill Faulkes a mae ganddynt ddau delesgôp, un yn Hawai a'r llall yn Awstralia. Gobeithir y bydd yn prosiect yn dod yn adnodd gwerthfawr i'r cwricwlwm ac y bydd hefyd o ddefnydd i gymdeithasau seryddol. Mae'r wefan yn adnodd addysgol ac yn cynnwys manylion o sut i gofrestru a sut mae'r prosiect telesgôp yn gweithio.