Ymuno â'r Llyfrgell

Hanes Fy Chwilio

mwy...

Cymorth:

Cwricwlwm Cymreig--Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Bwriad y dolenni canlynol yw cyfeirio defnyddwyr at adnoddau'r Rhyngrwyd o fewn Cymru ar y We a fydd o ddefnydd i ddysgu Addysg Bersonol a Chymdeithasol mewn ysgolion.

Mae nifer o wefannau'n cynnwys deunydd a grëwyd yn arbennig i ysgolion, neu'n cynnig gwybodaeth am gyfleusterau sy'n darparu ar gyfer ymweliadau ysgol. Mae gan y gwefannau hyn eicon addysg ar waelod y disgrifiad o'r adnodd, ond gall gwefannau heb eicon gynnwys deunydd gwerthfawr yn aml, hefyd.

Ceir cysylltiadau anorfod rhwng nifer o bynciau ABCh, felly mae llawer ohonynt yn gorgyffwrdd o fewn y canllaw hwn.


Cliciwch ar unrhyw un o'r penawdau canlynol i weld dolenni at adrannau perthnasol, sy'n cynnwys gwefannau ac adnoddau Addysg Bersonol a Chymdeithasol, o fewn Cymru ar y We:


Agwedd Gorfforol | Agwedd Rywiol | Agwedd Amgylcheddol | Agwedd Gymunedol | Agwedd Alwedigaethol | Agwedd Emosiynol | Agwedd Ddysgu | Agwedd Foesol | Agwedd Gymdeithasol | Agwedd Ysbrydol |

Dolenni GCAD Cymru

Darperir gwefannau a fforymau yn arbennig ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru yn adran Pobl ifanc Cymru ar y We. Mae nifer o'r gwefannau hyn yn cynnwys gwybodaeth sy'n berthnasol i gwricwlwm ABCh Cymru.


Yr Agwedd Gorfforol

Mae agwedd gorfforol ABCh yn ffocysu ar hybu iechyd, ffitrwydd corfforol a phwysigrwydd diogelwch bwyd, gan hyrwyddo'r syniad o gadw'ch hun yn iach ac yn ddiogel yn yr amgylchedd gorfforol trwy edrych ar y peryglon sy'n gysylltiedig ag alcohol, cyffuriau ac ysmygu.

Dolenni ABCh sydd gan Cymru ar y We:

  • Hybu iechyd
    Mae nifer o adrannau o fewn Cymru ar y We yn cynnwys gwefannau sy'n ymwneud â hybu iechyd, gyda nifer ohonynt yn darparu ar gyfer ysgolion yn benodol. Maent yn cynnwys 'Ysgolion Hybu Iechyd', 'LifeBytes', 'Yr Ystafell' a 'Mind, Body and Soul'. Gellir gweld nifer o wefannau hybu iechyd eraill o bob rhan o Gymru, hefyd, gan gynnwys 'Safle Bws' (Conwy), 'Ysgolion Iach' (Sir Ddinbych), 'Prosiect Ysgolion Sir Benfro sy'n Hyrwyddo Iechyd' a 'Cardiff Catering', gwefan am leihau gorbwysedd ymysg plant.
  • Colli pwysau
    Mae'r adran hon yn darparu mynediad at adnoddau am orbwysedd a bwyta'n iawch, gan gynnwys 'Big Fat Problem' y BBC.
  • Ffitrwydd corfforol
    Gellir gweld nifer o weafnnau'n ymwneud â ffitrwydd corfforol yn Cymru ar y We, gan gynnwys mentrau a sefydlwyd gan Gyngor Chwaeaeon Cymru er mwyn hybu a chynyddu proffil chwaraeon ymysg gwragedd a merched, ac annog gwell cyfranogiad.
  • Alcohol (iechyd), Alcohol (lles cymdeithasol)
    Dwy adran sy'n tynnu sylw at y problemau sy'n gysylltiedig ag alcohol a goryfed. Mae nifer o'r gwefannau'n edrych ar y niwed a wneir wrth yfed gormor, gan restr nifer o'r gwasanaethau yng Nghymru a all helpu pobl â phroblemau alcohol.
  • Ysmygu
    Mae'r adran hon yn cynnwys mynediad at nifer o adnoddau sy'n tynnu sylw at y problemau iechyd a gysylltir â smygu.
  • Addysg cyffuriau
    Rhestrir nifer o wefannau addysg cyffuriau o fewn Cymru ar y We, megis 'Talk to Frank'. Gellir cael mynediad at sawl gwasaneth ar draws Cymru gyfan, a sefydlwyd er mwyn helpu'r rheiny sy'n dioddef o gamdrin cyffuriau ac er mwyn tynnu sylw at beryglon cymryd cyffuriau a bod yn gaeth i gyffuriau, hefyd.
  • Diogelwch bwyd
    Mae nifer o adnoddau ar gael erbyn hyn sy'n darparu cyngor a gwybodaeth i'r cyhoedd a'r llywodraeth am fwyd, maeth a hylendid.
  • Rhaglenni diogelwch y cyhoedd a Throseddeg
    Darperir mynediad at ystod eang o adnoddau am ddiogelwch y cyhoedd, atal troseddau a gwneud ein cymunedau'n lefydd mwy diogel yn yr adrannau hyn.
  • Chwaraeon a hamdden
    Mae gan Cymru ar y We gannoedd o ddolenni am bob math o chwaraeon a gweithgareddau hamdden. Gellir gweld adrannau am ddawns a chwaraeon dŵr yng Nghymru, hefyd.
  • Beicio a Cherdded
    Gellir cael mynediad at nifer o adnoddau cerdded a beicio yma, hefyd, gan gynnwys rhai gwefannau o ddiddordeb penodol, megis 'Llwybrau Diogel i Ysgolion', gwefan elusen trafnidiaeth gynaliadwy sy'n annog pobl i gerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na mynd mewn car.

Yr Agwedd Rywiol

Hybir rhyw diogel ac anogir unigolion i gymryd cyfrifoldeb dros eu hymddygiad rhywiol gan agwedd rywiol ABCh. Mae'r adran hon yn ffocysu'n bennaf ar beryglon afiechydon a drosglwyddir yn rhywiol, argaeledd gwahanol fathau o atal cenhedlu a'r gyfraith o ran ymddygiad rhywiol.

Dolenni ABCh sydd gan Cymru ar y We:

  • Iechyd rhywiol
    Mae'r adran hon yn cynnwys gwefannau am leihau nifer y beichiogiadau yn yr ifanc, heintiau a drosglwyddir yn rhywiol ac ymarfer rhyw diogel.
  • Afiechydon yn ymwneud â HIV/AIDS
    Gellir cael mynediad at wefannau sy'n cynnig cefnogaeth i'r rheiny sy'n HIV+ neu sy'n dioddef o AIDS, ac am ymgyrchoedd i atal lledaeniad HIV ac AIDS yn y DU, yma.

Yr Agwedd Amgylcheddol

Mae agwedd amgylcheddol ABCh yn hybu ymwybyddiaeth disgyblion o broblemau amgylcheddol y byd ac o'r syniad o Ddatblygiad Cynaliadwy. Mae'n annog defnyddio'r amgylchedd mewn ffordd gyfrifol, gan ddarparu gwybodaeth am sut gall newidiadau bach yn eich bywyd wneud gwahaniaeth i'r amgylchedd fyd-eang. Denfyddir adnoddau gan Ddatblygiad Cynaliadwy yn y fath ffordd fel nad yw;n effeithio anghenion cenedlaethau'r dyfodol, gan sicrhau bod ardal yn cynnal ei harwyddocâd naturiol neu ddiwylliannol. Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddyletswydd cyfreithiol rhwymol i ddilyn Datblygiad Cynaliadwy, a dyma un o'r unig dri o gyrff yn y byd sydd â Datblygiad Cynaliadwy wedi ei gynnwys yn ei gyfansoddiad.

Dolenni ABCh sydd gan Cymru ar y We:

  • Yr amgylchedd a datblygiad cynaliadwy
    Dyma ganllaw addysgiadol am yr amgylchedd a datblygiad cynaliadwy yng Nghymru. Fe'i crëwyd yn arbennig ar gyfer y Cwricwlwm Cymreig. Mae'r canllaw hefyd yn berthnasol ar gyfer Addysg Bersonol a Chymdeithasol, gan edrych ar ynni adnewyddadwy, ailgylchu, arbed ynni a chanolfannau amgylcheddol awyr agored yng Nghymru.

Yr Agwedd Gymunedol

Mae'r adran hon yn cynnwys adnoddau am adfywio cymunedol, materion amlddiwylliannol, anffafriaeth hiliol a dinasyddiaeth yng Nghymru. Bydd yn darparu cyfle i chi ymchwilio i, a gwerthfawrogi, amrywiaeth diwylliannol a darganfod mwy am yr holl genhedlau a chrefyddau sy'n cyd-fyw yng Nghymru. Mae'r agwedd hon o ABCh hefyd yn ffocysu ar Ddinasyddiaeth Gweithredol a'r angen i chwarae rhan eang yn y gymdeithas, gan bwysleisio'r angen i werthfawrogi a deall holl ddiwylliannau Cymru a'r syniad o fyw mewn cymdeithas ddemocratig. Hybir y syniad o gyfleoedd cyfartal gan Agwedd Gymunedol ABCh, gan gynnwys pwysigrwydd gwerthfawrogi treftataeth ddiwylliannol Cymru a'i dimensiwn aml ddiwylliannol. Mae hefyd yn edrych ar strwythur y llywodraeth yng Nghymru a phwysigrwydd deialog, mynegiant a cyfraniad gwleidyddol.

Dolenni ABCh sydd gan Cymru ar y We:

  • Cymunedau ar-lein
    Mae gan Cymru ar y We restr o nifer helaeth o wefannau cymunedol o bob rhan o Gymru, gan adlewyrchu sawl agwedd o fywyd cymdeithasol. Gellir cymharu bywyd mewn nifer o leoliadau ar draws Cymru trwy'r gwefannau cymunedol, gan gasglu gwybodaeth sy'n ymwneud â phentrefi o Ynys Môn i Gymoedd De Cymru, a phob ardal rhwng y ddau. Mae gweafn 'Capture Wales' gan y BBC hefyd yn galluogi pobl i adrodd eu hanesion mewn ffordd newydd, gan ddefnyddio offer cynhyrchu amlgyfrwng.
  • Adfywio cymunedol
    Mae adfywio cymunedol hefyd ar flaen yr agenda heddiw yn y Gymru wledig a threfol fel ei gilydd. Ceir mynediad at nifer o wefannau'n ymwneud â mentrau adfywio cymunedol ym mhob ardal ar draws Cymru yn yr adran ar ddatblygiad cymunedol.
  • Yr iaith Gymraeg
    Mae treftadaeth ddiwylliannol Cymru yn unigryw, ac mae dwyieithrwydd yn rhan annatod o'n cymdeithas. Darperir mynediad at amryw o adnoddau'n ymwneud â'r iaith Gymraeg a dwyieithrwydd yng Nghymru yn yr adran hon, gan gynnwys adnoddau am hanes yr iaith Gymraeg a'r nifer o gyfleoedd sydd ar gael i'r rheiny sydd am ddysgu'r iaith.
  • Grŵpiau ethnig a hiliol
    Gwelir nifer o grŵpiau yng Nghymru sy'n taclo hiliaeth ac sy'n hybu Cymru amlddiwylliannol. Mae'r adran hon o fewn Cymru ar y We yn cynnwys mynediad at y grŵpiau hyn, yn ogystal ag adnoddau am grŵpiau cymunedol yng Nghymru megis Somaliaid, Yemeniaid a phobl o'r Caribî a chanol Affrica.
  • Lleiafrifoedd ethnig: gwasanaethau
    Mae Cymru ar y We yn cynnwys mynediad at nifer o wasanaethau sy'n cefnogi lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru a'r DU.
  • Grŵpiau a chenhedloedd eraill yng Nghymru
    Gellir gweld nifer o adnoddau gan gynnwys rhai am Armeniaid, Palesteiniaid, Pŵyliaid a'r Sipswn yng Nghymru yn yr adran hon.
  • Ffoaduriaid
    Darperir gwasanaethau a gwybodaeth i geiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru ar nifer o wefannau. Mae'r gwasanaethau hyn yn bodoli er mwyn gwella eu hamodau a hybu dealltwriaeth y cyhoedd o faterion ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
  • Crefyddau'r byd
    Mae nifer o wahanol grefyddau'n cyd-fyw yng Nghymru. Darperir mynediad i adnoddau am Fwdhaeth, Hindŵaeth, Iddewiaeth, Islam a Ffydd y Baha'i yn yr adran hon.
  • Yr henoed, Anableddau, Seicoleg cymunedol, Anhawsterau dysgu
    Mae gan Cymru ar y We nifer o wefannau sy'n darparu gwybodaeth a gwasanaethau i amryw o grŵpiau o bobl. Bydd yr adrannau hyn yn darparu gorolwg o'r problemau sy'n gysyllteidig â rhai o'r grŵpiau hyn wrth iddynt fyw o ddydd i ddydd. Maent hefyd yn gweithio i hybu'r syniad o gyfleoedd cyfartal, yn codi ymwybyddiaeth ac yn datblygu agwedd barchus a derbyngar.
  • Digartrefedd
    Ceir mynediad at nifer o wefannau'n ymwneud â digartrefedd o fewn Cymru ar y We, gan gynnwys 'Shelter Cymru' a gwefan 'Housemate' a sefydlwyd er mwyn esbonio'r problemau cartrefedd a wynebir gan bobl ifanc.
  • Dinasyddiaeth
    Mae yna ystod o adnoddau sy'n edrych ar ddinasyddiaeth yn bodoli yng Nghymru. Maent yn cynnwys 'Cyfanfyd', 'Cyngor Addysg mewn Dinasyddiaeth Byd (CEWC) Cymru)', 'Creu Cyfle' a'u hymgais i greu cysylltiadau parhaus newydd (yn enwedig rhwng pobl ifanc) yng Nghymru a deg aelod newydd yr Undeb Ewropeaidd (Latfia, Lithwania, Estonia, Gwlad Pŵyl, Hwngari, Y Weriniaeth Tsiec, Slofacia, Slofenia, Cyprus a Malta). Mae'r adran hon yn hybu dealltwriaeth o'r byd cyfoes.
  • Hawliau sifil a gwleidyddol
    Mae'r adran hon yn cynnwys adnoddau o grŵpiau pwysedd yng Nghymru sy'n hybu hawliau sifil a gwleidyddol yn y wlad hon. Maent yn cynnwys grŵpiau pwysedd am yr iaith Gymraeg, a grŵpiau sy'n hybu cydraddodleb ar gyfer merched, grŵpiau hil, pobl ag anableddau, a phobl hoyw, lesbiaidd neu ddeurywiol ar draws y DU.
  • Gwyddor gwleidyddiaeth, Gweinyddiaeth gyhoeddus
    Dwy adran sy'n ymchwilio i wleidyddiaeth a chymdeithas ddemocratig y wlad hon. Mae nifer o'r gwefannau'n cynnig gorolwg o ddemocratiaeth yng Nghymru, gan ddarparu mynediad at wefannau eich cynrychiolwyr lleol chi (AS, AC ac ASE).
  • Gwyddor gwleidyddiaeth: pobl ifanc
    Mae'r adran hon yn edrych ar adnoddau gwleidyddol a grëwyd yn arbennig ar gyfer pobl ifanc, i hybu deialog wleidyddol a chyfranogiad yn y broses wleidyddol. Gellir gweld adnoddau megis 'Heads Up' (gan Gymdeithas Hansard), 'Draig Ffynci' a 'Senedd Ieuenctid Cymru'.
  • Etholiadau
    Mae gwefannau perthnasol yn cynnwys 'Y Vote 2005', sydd ag adnoddau a deunydd dysgu a fydd yn galluogi eich ysgol i gynnal etholiad ffug, ac adran yn arbennig ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru. I'r rhan fwyaf ohonom, mae cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd yn golygu pleidleisio mewn etholiadau. Crëwyd gwefan 'Fy Mhleidlais I' er mwyn galluogi pobl i ddod o hyd i bopeth sydd angen ei wybodaeth am bleidleisio a'r broses ddemocrataidd er mwyn iddynt hwy fedru cymryd rhan. Mae'r adran hon hefyd yn cynnwys adnoddau sy'n esbonio'r broses ddemocrataidd yng Nghymru.
  • Rhaglenni diogelwch y cyhoedd a Throseddeg
    Mae'r adrannau hyn yn darparu mynediad at ystod eang o adnoddau sy'n ymwneud â diogelwch y cyhoedd, atal trosedd a gwneud ein cymunedau'n lefydd mwy diogel.

Yr Agwedd Alwedigaethol

Mae agwedd alwedigaethol ABCh yn edrych ar y byd gwaith sy'n newid cymaint, gan godi ymwybyddiaeth o feterion yn ymwneud â gwaith. Mae'r adran hon yn cynnwys ystod eang o adnoddau sy'n darparu gwasanaethau a chyngor am wneud dewisiadau gwybodus am ddysgu a gyrfaoedd, ac er mwyn paratoi pobl ar gyfer y byd gwaith. Gellir gweld adnoddau am effaith technolegau newydd, hefyd, yn ogystal ag adrannau o fewn Cymru ar y We sy'n cynnwys gwybodaeth am y gwahanol fathau o swyddi a gyrfaoedd sy'n bodoli yng Nghymru.

Dolenni ABCh sydd gan Cymru ar y We:

  • Gyrfaoedd
    Darperir mynediad at amryw o wefannau gyrfaoedd o Gymru, sy'n drparu arweiniad ac addysg wych am yrfaeoedd, yn adran yrfaoedd Cymru ar y We. Mae gwefan 'Gyrfa Cymru' yn arbennig o ddefnyddiol, gyda gwybodaeth ac arweiniad am addysg yn ymwneud â gwaith.
  • Addysg sy'n ymwneud â gwaith
    Ar gyfer partneriaethau ysgolion busnes ac addysg sy'n ymwneud â gwaith.
  • Addysg alwedigaethol a Hyfforddiant galwedigaethol
    Mae Cymru ar y We yn cynnwys ystod o wahanol adnoddau am addysg a hyfforddiant galwedigaethol, a natur newidiol gwaith yng Nghymru.
  • Addysg er cyfrifoldeb cymdeithasol
    Adran ar gyfer cynlluniau ac adnoddau sy'n pwysleisio ac yn hybu'r syniad fod dysgu'n rywbeth ar gyfer Cymru gyfan.
  • Swyddi gwag, Undebau llafur, Pensiynau, Trethi, Diweithdra
    Mae yna nifer o adrannau sy'n ymwneud â'r byd gwaith a materion cyflogaeth yn y DU i'w gweld o fewn Cymru ar y We, hefyd.
  • Dysgu gydol oes/Addysg i oedolion
    Dyma restr o fentrau addysg gydol oes yng Nghymru.
  • Cyngor i ddefnyddwyr
    Darperir mynediad at wasanaethau gwybodaeth i ddefnyddwyr o safon yng Nghymru yn yr adran hon. Mae gwefannau cyngor i ddefnyddwyr hefyd yn darparu cyngor ar faterion ariannol ac ar brynu a gwerthu, hefyd.
  • TGCh: Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
    Mae TGCh yn chwarae rhan allweddol mewn sawl agwedd o'n bywydau. Mae'r adran hon yn cynnwys amryw o adnoddau am Dechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, o fentrau newydd a chyfoes i hyfforddiant sylfaenol.

Yr Agwedd Emosiynol

Mae agwedd emosiynol ABCh yn ffocysu ar reoli eich teimladau ac emosiynau. Gellir gweld adnoddau am ddatrys gwrthdrawiadau a chyd-drafod cytundebau, bwlio ac ymdopi â cholled mewn sawl adran o fewn Cymru ar y We.

Dolenni ABCh sydd gan Cymru ar y We:

  • Datrys gwrthdrawiadau/Cyfryngiad
    Mae'r adran hon yn cynnwys gwasanaethau cyfryngu yng Nghymru. Gall y gwasanaethau hyn gael effaith uniongyrchol ar osgii, rheoli a datrys gwrthdrawiadau.
  • Bwlio
    Ceir nifer o wahanol fathau o fwlio, ac fe'i welir ym mhob agwedd o'n bywydau. Mae'r adran ar fwlio yn darparu mynediad at adnoddau sy'n cynnig cefnogaeth a gwybodaeth am y pwnc.
  • Profedigaeth
    Adnoddau a gwasanaethau ar gyfer ymdopi gyda cholled.
  • Cefnogaeth i ddioddefwyr
    Mae'r adran hon yn cynnwys mynediad at adnoddau a gwasanaethau a all helpu'r rheiny sydd am ymdopi ag effeithiau trosedd.
  • Trais yn y cartref
    Darperir gwasanaethau gwybodaeth a chefnogaeth gyfrinachol ac am ddim i'r rheiny a effetihiwyd gan drais yn y cartref yn yr adran hon.
  • Cam-drin plant
    Mae rheolaeth a darpariaeth gwasanaethau cam-drin plant yng Nghymru wedi bod yn llygad y cyhoedd yn ddiweddar o ganlyniad i nifer o achosion sydd wedi cael llawer o sylw, yng Nghymru a'r DU. Darperir nifer o adnoddau a gwasanaethau cefnogaeth ar gyfer y rheiny a effeithiwyd gan drais tuag at blant yn yr adran hon. Mae'r adran hefyd yn cynnwys mynediad at 'Childline', sef llinell gymorth 24-awr am ddim ar gyfer plant sy'n dioddef o drais yng Nghymru.

Yr Agwedd Ddysgu

Mae agwedd ddysgu ABCh yn canolbwyntio ar wella perfformiad addysg, ac mae'n cynnwys ymroddiad i ddysgu gydol oes a datblygiad sgiliau newydd a sgiliau allweddol sy'n hanfodol mewn amgylchedd sy'n newid yn gyflym.

Dolenni ABCh sydd gan Cymru ar y We:

  • Dysgu gydol oes/Addysg i oedolion
    Dyma restr o fentrau a chyfleoedd dysgu gydol oes yng Nghymru.
  • TGCh: Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
    Mae TGCh yn chwarae rhan allweddol mewn sawl agwedd o'n bywydau. Mae'r adran hon yn cynnwys amryw o adnoddau am Dechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, o fentrau newydd a chyfoes i hyfforddiant sylfaenol.
  • Llythrennedd
    Mae nifer o gyrff a mentrau wedi eu hymroi i hybu llythrennedd yn y DU. Maent yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill er mwyn datblygu safonau llythrennedd yn y DU trwy hybu darllen. Dyma adran sy'n darparu rhestr o rai o'r cyrff hyn.
  • Grantiau: addysg bellach, Grantiau: addysg uwch
    Darperir llawer o grantiau ar gyfer y rheiny sydd am barhau gyda'u haddysg mewn sefydliadau addysg bellach neu addysg uwch yng Nghymru.
  • Dysgu electronig o bell
    Galluogir myfyrwyr i astudio yn eu catrefi eu hunain, gyda chefnogaeth lawn gan eu colegau trwy ddatblygiad addysg electronig o bell. Mae'n faes newydd i addysg, ond hefyd yn un sy'n datblygu'n gyflym. Gellir gweld gorolwg gryno o'r cyfleoedd sydd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd yn yr adran hon.

Yr Agwedd Foesol

Mae'r agwedd hon o ABCh yn hybu amgylchedd sefydlog a threfnus, gan gynnwys gwerthoedd cyfrannol, parch, gonestrwydd a chyfrifoldeb. Mae'n ffocysu ar fwlio, dioglewch y ffordd a chynlluniau diogelwch y cyhoedd yng Nghymru.

Dolenni ABCh sydd gan Cymru ar y We:

  • Bwlio
    Ceir nifer o wahanol fathau o fwlio, ac fe'i welir ym mhob agwedd o'n bywydau. Mae'r adran ar fwlio yn darparu mynedaid at adnoddau sy'n cynnig cefnogaeth a gwybodaeth am y pwnc.
  • Addysg diogelwch y ffordd
    Mae'r adran hon yn darparu mynediad at nifer o fentrau diogelwch y ffordd yng Nghymru, meigs 'Gwyliwch Eich Cyflymder', 'Beicio Diogel Cymru', 'Think! Road Safety' a 'Cyngor Diogelwch y Ffyrdd Cymru (Roscow)'.
  • Rhaglenni diogelwch y cyhoedd
    Mae'r adran hon yn darparu mynediad at ystod eang o adnoddau am ddiogelwch cyhoeddus, atal trosedd a gwneud ein cymunedau'n lefydd saffach. Mae hefyd yn cynnwys mynediad at adnoddau sy'n ymwneud â bygythiadau cyfoes i'r gymdeithas, megis terfysgaeth.
  • Yr henoed, Anableddau, Digartrefedd, Seicoleg gymunedol, Anhawsterau dysgu
    Mae gan Cymru ar y We nifer o wefannau sy'n darparu gwybodaeth a gwasanaethau i nifer o wahanol grŵpiau o bobl. Gall yr adrannau hyn ddarparu gorolwg o'r problemau sy'n gysylltiedig â'r grŵpiau hyn wrth iddynt fyw bywyd bob dydd. Mae hefyd yn hybu'r syniad o gyfleoedd cyfartal, gan godi ymywbyddiaeth a datblygu agwedd barchus a derbyngar.

Yr Agwedd Gymdeithasol

Mae'r agwedd hon yn canolbwyntio ar adeiladu perthynas effeithiol â phobl a datblygu sgiliau magu plant da, gan ddarparu mynediad at ystod eang o adnoddau sy'n edrych ar bob agwedd o fywyd teuluol, magu plant a gofal cartref.

Dolenni ABCh sydd gan Cymru ar y We:


Yr Agwedd Ysbrydol

Mae nifer o gymunedau ysgolion yng Nghymru yn cynnwys disgyblion o sawl ffydd, gan gynnwys Cristnogaeth, Hindŵaeth, Sicaeth ac Islam. Ymgymerir ag agwedd gyfunol at addoli er mwyn datblygu agwedd o barch tuag at bob crefydd yn y wlad. Mae'r adran hon yn tynnu sylw at yr adnoddau crefyddol sydd gan Cymru ar y We, gan ddarparu sylfaen i ddod o hyd i wybodaeth gefndirol am y crefyddau sy'n cyd-fyw yng Nghymru.

Dolenni ABCh sydd gan Cymru ar y We:

  • Addysg Grefyddol: canllaw Cwricwlwm Cymreig
    Ewch at ganllaw Cwricwlwm Cymreig Cymru ar y We er mwyn cael gorolwg o'r deunydd sy'n ymwneud â Christnogaeth a chrefyddau eraill y byd yng Nghymru.
  • Crefyddau'r byd
    Mae nifer o wahanol grefyddau'n cyd-fyw yng Nghymru. Darperir mynediad i adnoddau am Fwdhaeth, Hindŵaeth, Iddewiaeth, Islam a Ffydd y Baha'i yn yr adran hon.

Deunydd dysgu Addysg Bersonol a Chymdeithasol sydd gan GCAD Cymru:

Gwefannau awgrymedig sy'n ymdrin ag Addysg Bersonol a Chymdeithasol yng Nghymru:

  • Draig Ffynci
    Mae’r Ddraig Ffynci – Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Gymru – yn cael ei rhedeg gan yr aelodau eu hunain. Ein bwriad yw rhoi cyfle i rai rhwng 0 – 25 oed i leisio eu barn ar faterion sy’n effeithio arnyn nhw. Prif swyddogaeth Draig Ffynci yw sicrhau bod barn plant a phobl ifanc yn cael ei glywed, yn enwedig gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac i wneud yn siwr eu bod yn cael cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau ar lefel genedlaethol.

  • Plant a Phobl Ifanc
    Un o amcanion Llywodraeth y Cynulliand yw helpu Cymry ifanc i gyflawni eu potensial, gan roi dechrau gwell i fywydau plant y wlad a chefnogi'r rheiny sydd angen cymorth. Maent yn gweithio gyda llywodraethau lleol, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a chyrff gwirfoddol er mwyn cyrraedd y nod hwn. Gellir gweld gwybodaeth am yr hyn mae'r Cynulliad yn ei wneud i gyflawni eu hamcanion, gan gynnwys mynegai o bynciau, rhestr o'u cyhoeddiadau a manylion am fentrau Draig Ffynci a Rhoi Plant yn Gyntaf.

  • Canllaw Ar-lein
    Darperir gwybodaeth ynglŷn ag addysg, cyflogaeth, hyfforddiant, iechyd, tai, y gyfraith a hawliau, arian, chwaraeon a hamdden, a'r byd yn gyffredinol gan Canllaw Ar-lein. Anelwyd y wefan bobl ifanc sy'n dechrau ar daith bywyd, gan ddarparu cymorth a chyngor ar y rhan fwyaf o faterion sy'n debygol o'u heffeithio. Mae'r wefan hefyd yn cynnwys adran newyddion ac adran ffocws lle ceir eglurhad o bynciau'r dydd.

  • Llwybrau Diogel i Ysgolion
    Gweithredir y rhaglen Llwybrau Diogel i Ysgolion gan Sustrans. Elusen trafnidiaeth gynaliadawy, sy'n annog pobl i gerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth cyhoeddus er mwyn teithio yn hytrach na defnyddio car, yw Sustrans. Gellir gweld Cynlluniau Teithio Ysgol, digwyddiadau, newyddion, llyfrgell adnoddau a nifer o astudiaethau achos sy'n berthnasol i'r cynllun yng Nghymru ar y wefan hon.

  • Clic Ar-lein
    Gwasanaeth gwybodaeth a chyngor i Gymry ifanc, sy'n cael ei ddatblygu gan Gymdeithas Gyrfa Cymru, yw Clic Ar-lein. Darperir mynediad at ystod eang o wybodaeth ddwyieithog ar-lein i bobl ifanc 11-25 oed, gyda gwybodaeth am ddeg o wahanol feysydd gan gynnwys iechyd, addysg, perthynas, tai, chwaraeon, arian a'r gyfraith. Ei nod yw cynnig gwasanaeth uniongyrchol i ateb holl anghenion gwybodaeth y grŵp oedran arbennig hwn.

  • Sgiliau Allweddol Cymru
    Nod Sgiliau Allweddol Cymru yw cynorthwyo unigolion wrth iddynt hyfforddi darparwyr, ysgolion a cholegau i wella ansawdd darpariaeth sgiliau allweddol ac i gefnogi'r paratoad i bobl ifanc ar gyfer cymwysterau'r sgiliau allweddol. Cyllidir Sgiliau Allweddol Cymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ddarparu ystod eang o wasanaethau cefnogi a hyfforddiant o safon uchel. Mae gwefan Sgiliau Allweddol Cymru yn darparu gwybodaeth am ddigwyddiadau a chynadleddau, rheoli sgiliau allweddol yng Nghymru, cefnogaeth i fyfyrwyr a rhestr o brosiectau datblygu sy'n caniatáu i ysgolion a cholegau archwilio ffyrdd newydd neu well o gyflwyno a chredydu Sgiliau Allweddol.