Canllaw i'r Curriculum Cymreig --> Celf
Nod y dolenni canlynol yw cyfeirio defnyddwyr at adnoddau sydd wedi eu cynnwys ym mhorth Cymru ar y We a fydd o werth i ysgolion yn gyffredinol, ac wrth ddysgu'r Cwricwlwm Cymreig.
Mae nifer o'r gwefannau'n cynnwys deunydd a grëwyd yn arbennig ar gyfer ysgolion, neu wybodaeth am adnoddau sy'n cynnig darpariaeth ar gyfer ymweliadau ysgol. Mae gan y gwefannau hyn eicon ar waelod disgrifiad yr adnodd.
Gall gwefannau heb eicon addysg hefyd gynnwys deunydd gwerthfawr. Er nad ydynt yn cynnwys adnoddau a grëwyd yn arbennig ar gyfer y dosbarth, medrent gyfrannu'n fawr at ddarpariaeth y Cwricwlwm Cymreig mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae'n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer y rheiny sy'n chwilio am ddeunydd yn ymwneud â Chymru y gellir ei ddefnyddio wrth ddysgu. Mae'r dudalen hon hefyd yn cynnwys dolenni at adranau perthnasol gwefan GCAD Cymru.
Ewch at ein canllawiau ar gyfer Celf er mwyn cael golwg gyffredinol o'r adnoddau addysgiadol sydd ar gael yng Nghymru sy'n berthnasol i'r pwnc. Mae'n faes eang, gyda chelfyddyd gweledol, celfyddyd gyfoes, celf gyhoeddus, paentio, gwneud printiau, cerflunio, celf tirol, ffotograffiaeth, animeiddio, serameg, a gwaith haearn, gwydr a thecstiliau'n rhan ohono.
Mae'r dolenni o fewn Cymru ar y We sy'n ymwneud â Chelf yn cynnwys:
- Celyddydau: pob adnodd
Ar gyfer ystod eang o adnoddau'n ymwneud â'r celfyddydau yng Nghymru. - Artistiaid
Mae Cymru ar y We yn cynnwys nifer helaeth o wefannau artistiaid. Maent yn cynnwys pob mathau o artistiaid, o bobl enwog megis Kyffin Williams i artistiaid cymunedol. - Cyfeiriadau artisitiad
Adran sy'n cynnwys nifer o gronfeydd data a chyfeiriadau gyda manylion am artistiaid a sefydliadau celfyddydol Cymru, megis ArtsWales, sy'n rhan o wefan Cyngor Celfyddydau Cymru, ac Axis Web. - Celfyddydau: Hanes, disgrifiad, asesiad beirniadol
Gan gynnwys gwefannau rhagelnni teledu sy'n darparu asesiadau beirniadol o gelfyddyd yng Nghymru, megis Croma a Sioe Gelf, ac adran Celfyddydau ac Adlonaint gwefan BBC Wales. - Celfyddydau: sefydliadau a rheolaeth
Mae'r adran hon yn darparu gwybodaeth am sefydliadau Celfyddydol cenedlaethol a lleol yng Nghymru, gan gynnwys adnoddau megis gwefan Cyngor Celfyddydau Cymru a chyrff lleol ym Mhowys, Pen-y-bont ar Ogwr, Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Caerdydd a Sir Benfro. - Celfyddydau: Addysg
Ar gyfer gwefannau a grëwyd yn arbennig ar gyfer ysgolion a phobl ifanc. Mae'r gwefannau a all fod o ddiddordeb yn cynnwys Engage Cymru (darparwyr addysg orielau â ffocws ar Gymru), Axis Web a mentrau lleol megis Celfyddydau mewn Addysg, Abertawe. - Orielau a Chanolfannau Celfyddydau
Mae yna nifer o Orielau Celf yng Nghymru, gyda nifer ohonynt â phresenoldeb ar y we. Mae gan lawer ohonynt gyfleusterau addysgiadol, gweithdai ar gyfer ysgolion ac arddangosfeydd o waith artistiaid lleol, hefyd. - Celf dinesig a thirweddol
Gan gynnwys gwefannau sy'n edrych ar ddylunio trefol ac amgylcheddol yng Nghymru, megis Artswok Wales, y corff cenedlaethol ar gyfer celf gyhoeddus. - Cerflunio
Ar gyfer gwefannau sy'n ymwneud â cherflunio, cerfiadau a serameg. - Peintiadau
Adran sy'n cynnwys gwefannau nifer o beintwyr enwog Cymru. - Darlunio ac addurno
Gan gynnwys gwefannau yn ymwneud â nifer o'r celfyddydau addurniadol, megis crefftau, tecstiliau a gwneud gwydr. - Ffotograffiaeth a chelf gyfrifiadurol
Yn cynnwys gwefannau sy'n ymwneud â ffurfiau o gelfyddyd mwy cyfoes, megis ffotograffiaeth, animeiddio a dylunio cyfrifiadurol.
Deunydd dysgu sydd gan GCAD Cymru yn ymwneud â Chelf:
Gwefannau awgrymedig sy'n trafod pob agwedd o Celf yng Nghymru:
- Casgliad o nodweddion celfyddydol sy'n darlunio celf yng Nghymru ar draws yr oesoedd yw BBC Wales: Arts. Mae'r safle'n cynnwys gwybodaeth am artistiaid, cyfweliadau gydag unigolion sy'n gysylltiedig â chelfyddydau yng Nghymru, cystadlaethau a hanesion llwyddiant unigolion.
- Mae Engage Cymru yn cynrychioli aelodau Cymreig y corff Engage, gan ymateb i'r anghenion hyfforddi a rhwydweithio sy'n ymddangos o fewn addysg orielau gyda ffocws ar Gymru.
- Partneriaeth rhwng nifer o gyrff cenedlaethol Cymru yw Celfyddydau Ieuenctid Cymru, sy'n gweithio i sicrhau fod pobl ifanc yn derbyn cyfleoedd ac yn medru cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol yng Nghymru.