Ymuno â'r Llyfrgell

Hanes Fy Chwilio

mwy...

Cymorth:

Canllaw i'r Curriculum Cymreig -- Daearyddiaeth

Nod y dolenni canlynol yw cyfeirio defnyddwyr at adnoddau sydd wedi eu cynnwys ym mhorth Cymru ar y We a fydd o werth i ysgolion yn gyffredinol, ac wrth ddysgu'r Cwricwlwm Cymreig.

Mae nifer o'r gwefannau'n cynnwys deunydd a grëwyd yn arbennig ar gyfer ysgolion, neu wybodaeth am adnoddau sy'n cynnig darpariaeth ar gyfer ymweliadau ysgol. Mae gan y gwefannau hyn eicon ar waelod disgrifiad yr adnodd.

Gall gwefannau heb eicon addysg hefyd gynnwys deunydd gwerthfawr. Er nad ydynt yn cynnwys adnoddau a grëwyd yn arbennig ar gyfer y dosbarth, medrent gyfrannu'n fawr at ddarpariaeth y Cwricwlwm Cymreig mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae'n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer y rheiny sy'n chwilio am ddeunydd yn ymwneud â Chymru y gellir ei ddefnyddio wrth ddysgu. Mae'r dudalen hon hefyd yn cynnwys dolenni at adranau perthnasol gwefan GCAD Cymru.

Ewch at ein canllaw ar gyfer Daearyddiaeth er mwyn cael golwg gyffredinol o'r adnoddau addysgiadol sydd ar gael yng Nghymru sy'n berthnasol i'r pwnc.

Mae'r dolenni o fewn Cymru ar y We sy'n ymwneud â Daearyddiaeth yn cynnwys:

  • Daearyddiaeth a theithio
    Ar gyfer ystod eang o adnoddau sy'n ymwneud â daearyddiaeth a theithio yng Nghymru. Mae'r adran hefyd yn cynnwys mynediad at wefannau nifer o gyrff megis y Comisiwn Coedwigaeth, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd, ac at arweiniadau teithio cyffredinol ar gyfer Cymru.
  • Mapiau
    Mae Cymru ar y We yn cynnwys mynediad at adnoddau megir gwefannau'r Arolwg Ordans (a'u hadran addysg) a Vision of Britain Through Time. Mae hefyd yn cynnwys mynediad ar-lein at nifer o fapiau hen a chynnar o Gymru.
  • Daearyddiaeth a theithio yn eich ardal leol
    Ar gyfer ystod o wefannau daearyddiaeth a theithio cyffredinol yn eich ardal leol chi.
  • Parciau Cenedlaethol
    Gan gynnwys sawl gwefan ar gyfer ysgolion sy'n ymwneud ag Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Sir Benfro.
  • Cymunedau ar-lein
    Ceir rhestr maith o wefannau cymunedol o bob cwr o Gymru yn Cymru ar y We gan adlewyrchu sawl agwedd o fywyd cymunedol. Gellir cymharu bywyd mewn gwahanol ardaloedd dros Gymru, gan gasglu gwybodaeth yn ymwneud â bywyd mewn pentrefi o Ynys Môn i Gymoedd De Cymru a phob ardal rhyngddynt. Mae gwefan y BBC, Capture Wales, hefyd yn galluogi unigolion i adrodd eu hanesion mewn ffordd newydd, gan ddefnyddio offer cynhyrchu amlgyfrwng.
  • Grŵpiau cymdeithasol yng Nghymru neu Gymry mewn rhannau eraill o'r byd
    Mae'r adran hon yn cynnwys gwefannau nifer o gymunedau Cymreig o bedwar ban byd. Mae hefyd yn darparu sawl gwefan yn gysylltiedig â grŵpiau hil neu ethnig a'r nifer o genhedlau eraill sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru.
  • Datblygiad cymunedol
    Adfywiad cymunedol yw un o'r prif bynciau llosg heddiw yn y Gymru ddinesig a'r Gymru wledig. Mae gan yr adran ar ddatblygiad cymunedol fynediad at nifer o wefannau sy'n ymwneud â mentrau datblygu cymunedol ym mhob rhan o Gymru.
  • Amaeth a diwydiannau gwledig
    Ar gyfer gwefannau sy'n ymwneud ag amaeth a'r diwydiannau gwledig yng Nghymru. Mae gan yr adran ar Addysg fynediad at wefannau Addysg Ffermio a Chefn Gwlad a Phartneriaeth Ffermio.
  • Poblogaeth ac ystadegau
    Er mwyn gweld ystod o adnoddau, gan gynnwys geunydd ar gyfrifiadau'r gorffennol ac ystadegau am y Gymru gyfoes. Mae'r adran hefyd yn cynnwys adnoddau ar adrannau Stats4Schools a Golwg ar Gymru gwefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
  • Gwyddorau daear
    Ar gyfer gwefannau sy'n ymwneud â gwyddorau daear a daearyddiaeth ffisegol. Mae'r adrannau'n cynnwys daeareg, y pridd, ynysoedd, ogofâu, ardaloedd arfordirol, llynnoed, afonydd a nentydd, rhaeadrau a meteoroleg.
  • Yr amgylchedd a datblygiad cynaliadwy
    Arweiniad addysgiadol i ddatblygiad cynaliadwy a'r amgylchedd yng Nghymru. Mae'r canllaw hefyd yn edrych ar egni adnewyddadwy, ailgylchu, arbed ynni a chanolfannau awyr agored yng Nghymru.
  • Canolfannau awyr agored
    Gan gynnwys nifer o adnoddau am ganolfannau addysgiadol awyr agored yng Nghymru. Mae nifer ohonynt yn darparu ar gyfer dysgu daearyddiaeth.
  • Cyfnodau hanesyddol
    Mae'r adran am y 19eg a'r 20fed ganrif yn cynnwys nifer o adnoddau sy'n trafod yr oes ddiwydiannol a thirlun economaidd newidiol Cymru.

Deunydd dysgu sydd gan GCAD Cymru yn ymwneud â Daearyddiaeth: