Canllaw i'r Curriculum Cymreig -- Hanes Cymru
Bydd y dolenni canlynol yn cyfeirio defnyddwyr at adrnoddau sydd wedi eu cynnwys ym mhorth Cymru ar y We a fydd o werth i ysgolion yn gyffredinol, ac wrth ddysgu'r Cwricwlwm Cymreig.
Mae nifer o'r gwefannau'n cynnwys deunydd a grëwyd yn arbennig ar gyfer ysgolion, neu wybodaeth am adnoddau sy'n cynnig darpariaeth ar gyfer ymweliadau ysgol. Mae gan y gwefannau hyn eicon ar waelod disgrifiad yr adnodd.
Gall gwefannau heb eicon addysg hefyd gynnwys deunydd gwerthfawr. Er nad ydynt yn cynnwys adnoddau a grëwyd yn arbennig ar gyfer y dosbarth, medrent gyfrannu'n fawr at ddarpariaeth y Cwricwlwm Cymreig mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae'n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer y rheiny sy'n chwilio am ddeunydd yn ymwneud â Chymru y gellir ei ddefnyddio wrth ddysgu. Mae'r dudalen hon hefyd yn cynnwys dolenni at adrannau perthnasol gwefan GCAD Cymru.
Ewch at ein canllawiau am hanes lleol a chyfnodau hanesyddol er mwyn cael golwg gyffredinol o'r adnoddau addysgiadol sydd ar gael yng Nghymru sy'n berthnasol i'r pwnc.
Mae'r dolenni o fewn Cymru ar y We sy'n ymwneud â Hanes Cymru yn cynnwys:
- Cyfnodau hanesyddol
Ar gyfer adnoddau sy'n darparu gwybodaeth am bob cyfnod yn hanes Cymru, megis y cyfnodau Celtaidd a Rhufeinig. Mae'r adran hefyd yn cynnwys nifer o adnoddau am y ddau Ryfel Byd. - Hanes lleol
Mae gan Cymru ar y We gannoedd o wefannau o safon uchel sy'n ymwneud â hanes yn eich ardal chi. - Sefydliadau
Ar gyfer adnoddau megis Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cadw, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Fforwm Hanes Cymru. - Arddangosfeydd
Gellir gweld nifer o arddangosfeydd ar draws Cymru, megis yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Maent yn cynnwys Ymgyrch! (sy'n edrych ar ganrif o ymgyrchu gwleidyddol a chymdeithasol yng Nghymru), Cartŵnau Illingworth (nifer o ddarluniau gwleidyddol gan y cartŵnydd enwog), David Lloyd George a Lleisiau Celtaidd (sy'n cynnwys ystod o adnoddau yn ymwneud â'r ieithoedd Celtaidd). - Addysg: gweithiau cynhwysfawr
Ar gyfer adnoddau gyda phlethora o wybodaeth addysgiadol am hanes gan sefydliadau Cymraeg. Maent yn cynnwys cystadlaethau ar gyfer ysgolion, megis Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig. - Archaeoleg
Ceir rhestr o nifer o wefannau archaeolegol yma, gan gynnwys cronfeydd data Coflein a CARN o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. - Cestyll
Gelwir Cymru'n wlad y cestyll yn aml. Mae'r adran hon yn cynnwys gwefannau cestyll yng Nghymru, gan gynnwys gwefan wych Cestyll Cymru ac adnodd addysgiadol Channel 4 ar gestyll Caernarfon, Caerffili a Rhaglan. Mae'r adran hefyd yn cynnwys adnoddau am Fryngaerau'r Oes Haearn megis Castell Henllys. - Adeiladau hanesyddol
Ar gyfer adnoddau am Barc Margam (Castell Nedd Port Talbot) a Thŷ Tredegar (Casnewydd) a nifer o adeiladau enwog eraill yng Nghymru. Mae hefyd yn cynnwys dolenni at gyfres Restoration y BBC a gwefannau cysylltiedig megis Newbridge Memo a gwefan S4C am y Tŷ Cymreig. - Hanes teuluol/achyddiaeth
Ar gyfer ystod eang o wefannau sy'n ymwneud â hanes teuluol. - Bywgraffiadau
Ar gyfer bywgraffiadau gwyddonwyr, unigolion ym maes chwaraeon, gwleidyddion, cyfansoddwyr, cantorion, artistiaid, awduron ac actorion. Mae hefyd yn cynnwys dolenni at adnoddau mwy cyffredinol am Gymry enwog, meigs 100 Arwr Cymru a'r Bywgraffiadur Ar-lein. - Y diwydiant glo
Dominyddodd mwyngloddio fywyd yn y Maes Glo Cymreig. Mae nifer o adnoddau ar gael sy'n edrych ar fwyngloddio, streiciau a bywyd cymdeithasol yn ystod y cyfnod, megis Cwm: Coalfield Web Materials, ac adnodd Casglu'r Tlysau ar Drychineb Senghennydd. - Y diwydiant llechi
Y diwydiant llechi oedd y prif ddiwydiant yng ngogledd Cymru am flynyddoedd. Gellir gweld adnoddau am y diwydiant a'i effaith ar fywyd cymdeithasol yr ardal wedi eu rhestru yma. - Amgueddfeydd
I weld adnoddau am amgueddfeydd yn gyffredinol neu yn eich ardal chi.
Deunydd dysgu sydd gan GCAD Cymru yn ymwneud â Hanes Cymru:
Gwefannau awgrymedig sy'n trafod pob agwedd o Hanes Cymru:
- Casgliad o ddarluniau o fywyd Cymreig yw Casglu'r Tlysau, sy'n dangos hanes naturiol a chymdeithasol Cymru ar draws y canrifoedd. Mae'r wefan yn cynnwys delweddau o lythyron, lluniau, arteffactau a ffotograffau hanesyddol a gasglwyd o amgueddfeydd, llyfrgelloedd, swyddfeydd cofnodion ac archifau dros Gymru.
- Mae BBC Wales History yn cyflwyno hanes Cymru o 24,000 OC tan y cyfnod modern. Gellir gweld cyfoeth o wybodaeth am bob agwedd o hanes Cymru ar y wefan.
- Gellir gweld gwybodaeth am deithio, hanes a thraddodiad, iaith a llenyddiaeth, cestyll a gwleidyddaieth, yn ogystal ag ystod eang o ffeithiau a ffigurau defnyddiol am Gymru ar wefan Celticinfo.com. Mae hefyd yn cynnwys mynediad ar-lein i Hanes Cymru yn Gryno gan Peter Williams, o gyfnodau cyn-Ryfeinig i Referendwm Datganoli 1997.